An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Christoph Laucht

Dr Christoph Laucht

Athro Cyswllt
History

Cyfeiriad ebost

110
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ar ôl astudio ym Mhrifysgolion Kiel (Yr Almaen) ac Arizona (UDA) ar gyfer fy ngradd israddedig, cefais fy MA o Brifysgol New Mexico (UDA) yn 2005 a'm doethuriaeth o Brifysgol Lerpwl yn 2009. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2013, gweithiais ym Mhrifysgolion Lerpwl a Leeds.

Rwy'n hanesydd Gorllewin Ewrop (yn enwedig Prydain a Gorllewin yr Almaen) a'r Unol Daleithiau ar ôl 1945. Fy niddordebau yw ymchwil i heddwch a gwrthdaro hanesyddol; ffilm, teledu a hanes; hanes diwylliannol a chymdeithasol y Rhyfel Oer; yn ogystal â'r berthynas rhwng Prydain a'r Almaen. Yn fy ymchwil, rwy'n aml yn defnyddio dulliau trawswladol a chymharol sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol.

Roedd fy llyfr cyntaf, Elemental Germans: laus Fuchs, Rudolf Peierls and the Making of British Nuclear Culture, 1939-59 (Palgrave Macmillan, 2012) yn archwilio dylanwad gwyddoniaeth ar gymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth, a dylanwad y rhain ar wyddoniaeth, ym Mhrydain yn yr Ail Ryfel Byd a dechrau'r Rhyfel Oer. Yn ddiweddar, cwblheais brosiect ar ymgyrchu proffesiynol feddygol drawswladol, a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ac ar hyn o bryd rwy'n gorffen fy ail lyfr (Playing with Uncertainty: Britain and the Nuclear Threat in the Second Cold War, 1979-85; o dan gontract gyda’r Oxford University Press). Mae'n archwilio'r ffyrdd y gwnaeth gwahanol elfennau – y wladwriaeth, ymgyrchwyr gwleidyddol a chymdeithasol, arbenigwyr gwyddonol a’r cyfryngau poblogaidd – ymdrin â'r ansicrwydd ynghylch effeithiau disgwyliedig rhyfel niwclear ar adeg o densiwn rhwng yr uwchbwerau.

Rwyf wrthi'n gweithio ar ddau brosiect arall hefyd:

Mae'r un cyntaf yn ymdrin â gefeillio trefi ac ailadeiladu a chymodi yn Ewrop ar ôl 1945. Ochr yn ochr â chyfrol wedi'i chyd-olygu ar efeillio trefi, ailadeiladu a chymodi yn Ewrop yn ehangach (gyda Dr Tom Allbeson, Prifysgol Caerdydd), rwyf wedi dechrau gweithio ar astudiaeth hyd llyfr o efeillio trefi'r Almaen a Phrydain a therfynau cymodi yn Ewrop.

Rwyf hefyd yn dechrau prosiect ymchwil hirdymor newydd ar filwrio cymdeithasau Ewropeaidd ar ôl 1945 sy'n rhan o rwydwaith ymchwil rhyngwladol.

Yn ogystal, rwy'n cynnal fy niddordeb ymchwil mewn ffilm, teledu a hanes.

Meysydd Arbenigedd

  • Prydain Fodern, yr Almaen a'r Unol Daleithiau
  • Hanes Diwylliannol a Chymdeithasol
  • Hanes Trawswladol
  • Ymchwil Heddwch a Gwrthdaro Hanesyddol
  • Ffilm, Teledu a Hanes
  • Y Rhyfel Oer
  • Yr Oes Niwclear
  • Y berthynas rhwng Prydain a'r Almaen