Trosolwg
Helo! Rwy'n ddaearyddwr trefol ac economaidd, ac yn economegydd gwleidyddol. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddynameg ofodol marchnadoedd a nwyddau, yn y gorffennol a'r presennol. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y prosesau cymdeithasol a gwleidyddol sy'n gysylltiedig ag adeiladu a chynnal marchnadoedd ariannol, yn ogystal â marchnadoedd ar gyfer gwybodaeth. Rwy'n ymchwilio i'r ffyrdd mae'r marchnadoedd hyn a seilwaith cysylltiedig yn dibynnu ar gynhyrchiant anghyfartal dinasoedd a gofod trefol, ac yn cyfrannu ato.
Cefais Ph.D. mewn daearyddiaeth o Brifysgol Wisconsin-Madison yn 2013, a chefais fy mhenodi wedyn yn gymrawd ôl-ddoethurol Marie Curie ym Mhrifysgol Bryste, lle arhosais tan 2015. Rwyf wedi bod ym Mhrifysgol Abertawe ers dechrau 2016.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae llawer o'm hymchwil wedi canolbwyntio ar ddau brosiect cysylltiedig. Y prosiect cyntaf yw achyddiaeth datblygu deilliadau ariannol a'u rheoleiddio yn Chicago yn y 1970au a'r 1980au. Yn rhannol, mae'r prosiect yn dangos sut mae gwreiddiau daearyddol (Chicago) yr offerynnau a'r marchnadoedd hyn yn helpu i esbonio 'cynhanes' Argyfwng Ariannol Byd-eang 2008. Mae fy ail brosiect yn archwilio marchnadeiddio gwybodaeth academaidd a gwyddonol yn yr oes ddigidol. Rwyf wedi bod â diddordeb arbennig yn y cymhlethdodau a'r croesddywediadau niferus ynghylch cyhoeddi academaidd mynediad agored, yn enwedig y ffyrdd mae 'agor' gwybodaeth wedi arwain at gau marchnadoedd o’r newydd.