Dr Chengyuan Wang

Dr Chengyuan Wang

Uwch-ddarlithydd
Mechanical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602825
109
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Wang ymhlith y grŵp o ymchwilwyr arloesol sydd wedi gwneud cyfraniadau cadarn ym meysydd nano-fecanyddol deunyddiau uwch a biofecaneg cytosgerbwd mewn celloedd. Mae'n arbenigwr ar ddefnyddio technegau modelu aml-raddfa i ddatgelu ymatebion mecanyddol/electrofecanyddol penodol o ddeunydd crisial nanoraddfa a pholymerau protein. Nod yr ymchwil yw datgelu'r ffiseg sy'n ymddangos ar y nanoraddfa, sefydlu fframwaith damcaniaethol mecaneg nano-/celloedd a chynnig arweiniad damcaniaethol ar gyfer dyluniad deunyddiau nano/biomimetig, nano/bio-synwyryddion a nanogeneraduron.

Ar hyn o bryd, mae Dr Wang yn ymestyn ei ymchwil i beirianneg fiofeddygol lle bydd model celloedd electrofecanyddol newydd yn cael ei ddatblygu mewn ymgais i drawsnewid celloedd yn fiosynwyryddion ar gyfer diagnosis clefydau a chael dealltwriaeth drylwyr o fecano-drawsddygiad celloedd. Mae canlyniadau'r ymchwil hyd yma wedi arwain at 75 o bapurau cyfnodolyn a mwy na 10 cyfraniad cynhadledd, sydd wedi cael effaith sylweddol yn y maes yn rhyngwladol.

Meysydd Arbenigedd

  • Mecaneg nanoddeunyddiau a nanogyfansoddion;
  • Cyplu electrofecanyddol ar y nanoraddfa ;
  • Effeithiau ar raddfa fach ar y nanostrwythurau
  • Biomecaneg cytosgerbwd mewn celloedd
  • Electromecaneg celloedd a'i gymwysiadau biofeddygol