Professor Dominic Reeve

Yr Athro Dominic Reeve

Athro
Civil Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606566

Cyfeiriad ebost

111
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

PhD, CMath, FHEA, FRMetS, FIMA, FICE

Mae Dominic Reeve yn Athro Peirianneg Arfordirol ac yn Fathemategydd Siartredig. Mae hefyd yn Bennaeth Canolfan Beirianneg Gyfrifiannol Zienkiewicz, sef y ganolfan ymchwil uchaf ei bri yn y Coleg Peirianneg, y gellir olrhain ei hanes yn ôl i ddechrau'r 1960au, a'r gwaith arloesol ar y Dull Elfen Meidraidd gan y diweddar Athro Olek Zienkiewicz a chydweithwyr. Mae'r ganolfan yn cynnwys dros 200 o ymchwilwyr a staff ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.swansea.ac.uk/engineering/zcce/

Wedi ei hyfforddi’n fathemategydd, cafodd yr Athro Reeve ei PhD mewn Meteoroleg Ddynamig ym Mhrifysgol Reading, gan dreulio bron i 15 mlynedd mewn diwydiant ym maes ymchwil ac ymgynghoriaeth. Mae wedi addysgu myfyrwyr peirianneg ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig (MSc). Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys llifogydd ac erydu arfordirol, morffodynameg arfordirol ac ynni adnewyddadwy morol. Mae wedi bod yn gweithio yn y meysydd hyn ers dros bum mlynedd ar hugain ac mae wedi cyhoeddi nifer fawr o bapurau cyfnodolion a'r gwerslyfrau:

‘Coastal Engineering: Processes, Theory and Design Practice’ SPON (2004, 2011, 2018);
‘Risk and Reliability: Coastal and Hydraulic Engineering’ SPON (2009); a
‘Hydraulic Modelling - An Introduction: Principles – Methods – Applications’, SPON (2010).

Mae’r Athro Reeve yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith, a dyfarnwyd Gwobr Spackman am Fathemateg iddo gan Goleg y Brenin Llundain, Gwobr Gustav Willems gan PIANC ym 1998, a Gwobr Nakanishi JAMSTEC gan Ffederasiwn Cymdeithasau Peirianneg Cefnfor Japan yn 2016.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Reeve yn cyd-gadeirio Cynhadledd Ryngwladol IMA ar Berygl Llifogydd, ac mae ar Fyrddau Golygyddol Coastal Engineering (Elsevier), Journal of Waterway Port Coastal and Ocean Engineering (ASCE), Water (MDPI), Water Science and Engineering (Elsevier/Hohai), a’r Journal of Marine Science and Engineering (MDPI).

Mae'r Athro Reeve wedi goruchwylio dros 20 o fyfyrwyr PhD gyda’u traethodau llwyddiannus. Ar hyn o bryd mae'n goruchwylio pedwar myfyriwr PhD ac mae'n derbyn myfyrwyr PhD newydd. Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb gysylltu drwy e-bost, gan nodi pa faes Peirianneg Arfordirol/Hydrolig y maent am ymchwilio iddo, eu ffynhonnell ariannu, a'r cyfeirnod Z123.

Meysydd Arbenigedd

  • Llifogydd Arfordirol
  • Erydu
  • Peirianneg Arfordirol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Prosiectau ymchwil

iCOAST: Systemau gwaddodion arfordirol integredig
THESEUS: Technolegau arfordirol arloesol ar gyfer arfordiroedd Ewropeaidd mwy diogel mewn hinsawdd sy'n newid
FRMRC 1 a 2: Consortiwm ymchwil rheoli perygl llifogydd
EPIRUS: Rhagfynegiad ensemble o risg gorlifo ac ansicrwydd sy'n deillio o sgwrio
FLOODsite: Methodolegau dadansoddi a rheoli perygl llifogydd integredig

Prif Wobrau