Trosolwg
Rwy'n hanesydd cymdeithasol a diwylliannol, gydag arbenigedd mewn anabledd, meddygaeth, rhywedd a'r corff. Fi yw awdur Disability in Eighteenth-Century England: Imagining Physical Impairment (Routledge, 2012), a enillodd wobr y Disability History Association am gyhoeddiad neilltuol am y llyfr gorau a gyhoeddwyd ledled y byd ym maes hanes anabledd. Roeddwn yn Gyd-Gyfarwyddwr Disability and Industrial Society: Comparative Cultural History of British Coalfields 1780-1948 (Ymddiriedolaeth Wellcome, 2011-16), yn archwilio canfyddiad, triniaeth a phrofiadau glowyr anabl yn ne Cymru, yr Alban a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Arweiniodd yr ymchwil hwn at fy llyfr diweddaraf, Disability in the Industrial Revolution: hysical Impairment in British coalmining 1780-1880 (wedi'i gyd-ysgrifennu â Daniel Blackie), a gyhoeddwyd gan Manchester University Press yn 2018. Mae fy ymchwil presennol yn archwilio hanes ymgyrchu gwleidyddol gan bobl anabl ym Mhrydain ers y ddeunawfed ganrif. Rwyf hefyd yn aelod o Sefydliad Awen, prosiect gwerth £3.8 miliwn a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (2019-22), ac yno rwy'n arwain ymchwil ar fynediad pobl hŷn ac anabl i'r celfyddydau a threftadaeth.
Cwestiwn allweddol sy'n llywio fy ymchwil a'm haddysgu yw beth sy'n digwydd i'n dealltwriaeth o'r gorffennol pan fyddwn yn rhoi pobl sydd fel arfer yn cael eu gwthio i gyrion naratifau hanesyddol wrth galon y stori? Rwyf wedi ymrwymo i ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o brofiadau pobl sydd ar yr ymylon drwy gydweithio â darlledwyr, amgueddfeydd a phobl greadigol. Roeddwn yn gynghorydd hanesyddol ar gyfres BBC Radio Four, Disability: A New History (2013), ac arweiniais y tîm a fu'n curadu O Ben y Pwll i’r Ysbyty a Thu Hwnt: Hanes Cudd Anabledd yng Nghymru cyn dyfodiad y GIG (Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 2015).