Trosolwg
Mae gan Dr Richard Fern dros 35 o flynyddoedd o brofiad mewn newyddiaduriaeth a chysylltiadau cyhoeddus ac mae ganddo linellau enw'n amrywio o'r Guardian i Esquire. Mae wedi gweithio mewn asiantaethau gwasanaeth llawn a mewnol i nifer o frandiau cartref gan gynnwys JCB a Durex. Hefyd mae wedi gweithio fel Swyddog y Wasg ac Ymgyrchydd y Cyfryngau yn y sector prifysgol ac i elusennau megis Oxfam a Greenpeace.
Mae ei ymchwil yn mynd i'r afael â rôl cysylltiadau cyhoeddus ym maes plismona ac ymgyrchu gwleidyddol, gan fynd i'r afael â materion newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, yn ogystal â rôl ymgyrchu ac adrodd am brotestiadau. Canolbwyntiodd ei PhD ar gysylltiadau rhwng yr heddlu a'r cyhoedd.
Cyhoeddwyd ei waith mewn chwe chyfandir a dywed ei fod wrthi'n anelu at gyhoeddi yn Antarctica.
Mae Richard yn un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch ac mae wedi darlithio mewn nifer o brifysgolion. Mae wedi siarad mewn ystod o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n parhau i fod yn weithredol fel newyddiadurwr ac ymarferydd cysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal â fel hyfforddwr y cyfryngau.
Mae'n darlithio ar y cyfryngau digidol a chysylltiadau cyhoeddus. Richard yw arweinydd yr adran ar gyfer rhaglen y flwyddyn sylfaen yn ogystal â bod yn Swyddog Uniondeb Academaidd yr Adran.