Trosolwg
Ganwyd Alan Kellermann yn Wisconsin, UDA ac mae'n byw yn Abertawe. Ei gasgliad cyntaf yw You, Me and the Birds. Mae ei waith wedi ymddangos yn Poetry Ireland Review, Poetry Wales a Planet, ymhlith cyfnodolion eraill, mae wedi cael ei recordio ar gyfer BBC Radio, ac mae wedi cael ei ffilmio a'i gynnwys yn y cylchgrawn ar-lein, The Crunch. Mae'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn golygu barddoniaeth ar gyfer Parthian Books o bryd i'w gilydd.
Hefyd, mae ganddo ddiddordeb mewn barddoniaeth ffurf hir a naratif, a oedd yn ffocws ei ddoethuriaeth, a arweiniodd at ysgrifennu Columbus Day, cerdd epig lle mae chwedlau a'r presennol yn gwrthdaro ac mae barddoniaeth yn ffugio bod yn ffilm.
Mae hefyd wedi goruchwylio ac archwilio prosiectau ffuglen ddystopaidd.