Trosolwg
Mae modelu solidau aml-raddfa yn faes o ddiddordeb cynyddol yn y gymuned mecaneg gymhwysol a chyfrifiannol. Gall cysyniadau aml-raddfa ganiatáu datblygu modelau newydd i ddisgrifio ymddygiad cyfansoddol solidau drwy gynnwys gwybodaeth ar ddwy neu fwy o raddfeydd ffisegol. Mae'r gwaith o ddatblygu modelau o'r math hwn, yn enwedig gyda'r defnydd o ddulliau homogeneiddio cyfrifiannol yn seiliedig ar weithdrefnau Elfen Feidraidd, ar y gweill ar hyn bryd.
Un defnydd o ddiddordeb arbennig yw modelu ac efelychu meinweoedd biolegol yn gyffredinol. Mae deunyddiau o'r fath yn gyffredinol yn meddu ar ficrostrwythurau cymhleth sy'n arwain at ymddygiad macrosgopig cymhleth. Mae dulliau aml-raddfa’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn y cyd-destun hwn wrth fodelu ymateb cyfansoddol rhydwelïau dynol. Mae defnydd pellach o fethodolegau aml-raddfa ar waith ar hyn o bryd yng nghyd-destun modelu metelau amlgrisialog yn ogystal â phroblemau dargludiad gwres yn gyffredinol. Ymhlith y cyfeiriadau ymchwil newydd diweddar yn y maes hwn mae rhagfynegi sensitifrwydd deunyddiau macrosgopig i newidiadau microstrwythurol topolegol, a gyfrifir drwy'r cysyniad deilliadol topolegol fel y'i gelwir. Bydd gweithdrefnau o'r fath yn arwain yn y dyfodol agos at dechnegau newydd ar gyfer optimeiddio microstrwythurol.
Bydd technegau cyfrifiannol aml-raddfa yn arwain at dasgau aruthrol o safbwynt cyfrifiannol. Felly, mae angen optimeiddio effeithlonrwydd cyffredinol y fframwaith aml-raddfa er mwyn gallu ei ddefnyddio wrth ateb problemau ymarferol. Yn y cyd-destun hwn, mae technegau cyfrifiannol sy'n deillio o arbenigedd y grŵp ymchwil hwn wrthi'n cael eu datblygu, a hyd yma maen nhw wedi arwain at ostyngiadau sylweddol mewn amser cyfrifiadura. Rhagwelir datblygiadau pellach yn y dyfodol agos.