Trosolwg
Mae Faron Moller yn Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe o fewn y Grŵp Gwyddoniaeth Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol, ac ef yw'r Pennaeth wnaeth sefydlu Grŵp Gwirio Rheilffyrdd Abertawe.
Mae Faron yn Gyfarwyddwr Technocamps hefyd, rhaglen allgymorth ysgolion a chymunedol Cymru gyfan ym Mhrifysgol Abertawe ond gyda chanolfannau ym mhob prifysgol yng Nghymru. Mae hefyd yn Bennaeth y Sefydliad Codio yng Nghymru, sy'n cynrychioli cangen ymgysylltu â busnes Technocamps, ac yn cyd-Arwain y Thema Ymchwil ar Sylfeini Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadureg, sy'n cynrychioli cangen ymchwil Technocamps.