Trosolwg
Mae Geraint Evans yn addysgu llenyddiaeth fodern yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n aelod o'r Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru (CREW).
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys moderniaeth lenyddol, Llenyddiaeth Saesneg Cymru a hanes y llyfr ym Mhrydain ac mae’n canolbwyntio’n aml ar ieithoedd a diwylliannau Cymru a’r modd y maent yn rhyngweithio â Lloegr a diwylliant Seisnig rhyngwladol.
Hyfforddodd Geraint mewn theatr a pherfformiad yng Ngholeg Rose Bruford, Llundain, cyn astudio yng Ngholeg Birkbeck, Llundain, Prifysgol Cymru Abertawe, a Choleg Clare, Caergrawnt. Cyn symud i Abertawe, bu Geraint yn addysgu llenyddiaeth Brydeinig a Gwyddelig fodern ym Mhrifysgol Sydney.
Mae Geraint wedi cyhoeddi'n eang ym maes llenyddiaeth Lloegr a Chymru yn yr ugeinfed ganrif a hefyd ar hanes y llyfr ym Mhrydain, yn enwedig yn y cyfnod modern cynnar. Mae'n gyd-olygydd The Cambridge History of Welsh Literature, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2019.