Yr Athro Biagio Lucini

Cadair Bersonol
Mathematics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602284

Cyfeiriad ebost

338
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Lucini wedi derbyn Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol ac mae ganddo ddiddordebau sy'n rhychwantu Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Yn ei ymchwil mae'n cyfuno defnyddio Cyfrifiadura Perfformiad Uchel ac Algorithmau Mathemategol Uwch er mwyn mynd i'r afael â phroblemau agored mewn Ffiseg Gronynnau megis disgrifio rhyngweithiadau sylfaenol rhwng pedwar grym natur y gwyddys amdanynt ar hyn o bryd er mwyn esbonio natur fewnol yr Higgs Boson a bodolaeth Mater Tywyll.

Graddiodd yr Athro Lucini â PhD o Scuola Normale Superiore (Pisa, yr Eidal) ac ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2005 ar ôl bod yn Gymrawd Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen (2000 – 2003) ac yn ETH Zurich (2003 – 2005). Yn 2011, daeth yn Athro yn Abertawe, lle bu'n Gyfarwyddwr yr Adran Fathemateg rhwng 2015 a 2020. Yn 2018, fe'i hetholwyd yn Gymrawd Academi Ddysgedig Cymru. Yn 2020 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme iddo er mwyn archwilio cymwysiadau Dysgu Peirianyddol ym maes Mecaneg Ystadegol a Damcaniaeth Maes Cwantwm.

Yr Athro Lucini yw Cyfarwyddwr Academi Cyfrifiadura Uwch Abertawe a Chyfarwyddwr Technegol Canolfan Hyfforddiant Doethurol yr UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch. Mae hefyd yn aelod o Gyfarwyddiaeth Dechnegol cyfleuster Cyfrifiadura Perfformiad Uchel DiRAC y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Meysydd Arbenigedd

  • Dulliau Rhifiadol ac Algorithmau
  • Ffiseg Gronynnau Ddamcaniaethol
  • Damcaniaethau Medrydd Dellt
  • Systemau sy'n rhyngweithio'n gryf
  • Ffenomena Critigol
  • Algorithmau Monte Carlo
  • Dysgu Peirianyddol
  • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Yn bennaf mae'r Athro Lucini yn Fathemategydd Cymhwysol a Chyfrifiadol. Ei brif faes ymchwil yw Ffiseg Gronynnau ond hefyd mae ganddo ddiddordeb mewn Mecaneg Ystadegol, Electronau â Chydberthynas Gryf, cymwysiadau Dysgu Peirianyddol, Algorithmau Rhifiadol, Dulliau Monte Carlo a Chyfrifiadura Perfformiad Uchel.

Mae'n arbenigo mewn cyfrifiadau rhifiadol gan ddefnyddio Dulliau Monte Carlo mewn Damcaniaethau Mesur sy'n Rhyngweithio'n Gryf ac mewn Mecaneg Ystadegol gan ddefnyddio uwch-gyfrifiaduron o'r radd flaenaf a chan ddatblygu côd paralel effeithlon ar eu cyfer. Mewn perthynas â'r ail weithgarwch, mae wedi arwain y gwaith o ddatblygu meincnod Cyfrifiadura Perfformiad Uchel, BSMBench, a fabwysiadwyd gan gwmnïau blaenllaw yn y farchnad uwch-gyfrifiadura.

Ceir rhestr gyflawn o'i gyhoeddiadau ar Inspire a chaiff y rhestr hon ei diweddaru'n gyson. Manylir ar ei waith ymchwil yn ei Dudalen Awdur ar Inspire yn ogystal â'i gofnod Google Scholar.

Prif Wobrau Cydweithrediadau