Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Helen Lewis

Dr Helen Lewis

Athro Cyswllt
Education and Childhood Studies

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Helen yw Arweinydd Addysg Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae cefndir Helen mewn addysg gynradd ac addysg gychwynnol a pharhaus i athrawon, hi hefyd yw Cyfarwyddwr Rhaglen y Dystysgrif Addysg Gynradd i Raddedigion (TAR). Bu'n arwain rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys y BA Astudiaethau Addysg, y BA Addysg a'r MA Addysg.

Mae gan Helen ddau brif ddiddordeb ymchwil, sy'n ei galluogi hi i weithio gyda phlant, athrawon a chŵn! 

Ei maes diddordeb cyntaf yw egwyddorion ac addysgeg o ran datblygu sgiliau meddwl plant a metawybyddiaeth. Mae hi'n hyfforddwr achrededig ar gyfer nifer o raglenni sgiliau meddwl ac mae hi wedi astudio yn Project Zero, Prifysgol Harvard. Bu'n ddigon ffodus i ymgymryd â chymrodoriaeth dan arweiniad yr Athro Carol McGuinness (Prifysgol y Frenhines, Belfast), arbenigwr ym maes metawybyddiaeth. Roedd traethawd ymchwil doethurol Helen yn seiliedig ar feddwl metawybyddol plant ifanc.

Mae ail faes arbenigedd ymchwil Helen mewn maes sy'n datblygu'n gyflym sef addysg sy’n cynnwys rhyngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar sut gall cŵn mewn ysgolion gefnogi disgyblion mewn sawl ffordd.   Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ar y maes, ac mae ei llyfr diweddaraf hefyd yn archwilio lles y cŵn eu hunain.  Mae ganddi ardystiad Arbenigwr Ymyriad Cŵn gan Brifysgol Denver, ac ardystiad mewn therapi chwarae â chymorth anifeiliaid gan Sefydliad Rhyngwladol Therapi Chwarae â Chymorth Anifeiliaid.  Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar brosiect a ariennir gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC i greu arweiniad arfer gorau i athrawon sydd â diddordeb mewn cael ci yn yr ysgol.

Mae Helen yn adolygydd cymheiriaid ar gyfer sawl cyfnodolyn academaidd, ac mae'n arholwr allanol profiadol (Edge Hill; Sefydliad Addysg, Coleg Prifysgol Llundain; Prifysgol Southampton; Prifysgol Ulster) ac yn oruchwyliwr myfyrwyr ôl-raddedig ac arholwr PhD profiadol.

Mae Helen yn llywodraethwr ysgol gynradd, yn arolygwr tîm a chymheiriaid ar gyfer Arolygaeth Cymru, Estyn. Bu'n Ysgrifennydd er Anrhydedd y Gymdeithas Datblygiad Proffesiynol Ryngwladol (IPDA). Mae'n aelod o sawl pwyllgor arall gan gynnwys y Fforwm Let's Think ac yn aelod sefydlu o'r Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymyriadau â chymorth gan anifeiliaid
  • Cŵn mewn ysgolion
  • Addysg â chymorth cŵn
  • Sgiliau Meddwl a Metawybyddiaeth
  • Dysgu ac Addysgu (Addysgeg)
  • Ymarfer Myfyriol
  • Addysg Gychwynnol a Pharhaus i Athrawon
  • Ymchwil ac Archwiliadau gan Athrawon

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ymyriadau â chymorth gan anifeiliaid

Cŵn mewn ysgolion ac addysg â chymorth cŵn

Dysgu ac Addysgu

Cwricwlwm ac Asesu

Sgiliau Meddwl a Metawybyddiaeth

Lles, gwydnwch a chymhelliad

Dulliau ymchwil ac archwiliadau gan ymarferwyr

Prif Wobrau Cydweithrediadau