Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Imogen Dobie

Dr Imogen Dobie

Darlithydd Hanes Ewrop yr Ugeinfed Ganrif (Ymchwil Uwch)
History

Cyfeiriad ebost

138
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton

Trosolwg

Darlithydd Hanes Ewrop yr Ugeinfed Ganrif yw Imogen Dobie. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gymorth dyngarol a'i gysylltiad â mudo gorfodol ac arferion gwladwriaethau ffiniol.  Mae'n ymchwilio i sut mae asiantaethau cymorth yn hanesyddol wedi ymateb i symudiad ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli, gan ofyn beth mae hyn yn ein haddysgu am bolisi noddfa a mewnfudo ac egwyddorion a gwleidyddiaeth cymorth mewn argyfwng.

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, cwblhaodd Imogen ei DPhil ym Mhrifysgol Rhydychen yng Nghanolfan Astudiaethau Ffoaduriaid ac roedd hi hefyd yn uwch-ysgolhaig yng Ngholeg Lincoln. Mae ganddi MSc mewn Astudiaethau Ffoaduriaid a Mudo Gorfodol, hefyd o Brifysgol Rhydychen. Yn 2022, roedd Imogen yn ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Yale ac mae hi hefyd wedi gweithio gyda'r sector dyngarol ar brosiectau sy'n defnyddio hanes i gyfeirio llunio polisïau'r presennol. 

Mae gwaith ymchwil Imogen wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion ysgolheigaidd a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys European Review of History a Humanity. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ei llyfr cyntaf, gyda'r teitl dros dro Rocking the Boat: the Provision of Humanitarian Aid at Sea.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes modern (20fed a 21ain ganrif)
  • Hanes Dyngarwch
  • Hanes mudo gorfodol
  • Mewnfudo, polisi lloches a chyfundrefn ffoaduriaid fyd-eang
  • Datblygu rhyngwladol
  • Hanes Byd-eang a thrawswladol
  • Ymagweddau ôl-drefedigaethol i hanes

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Imogen yn addysgu ar draws ystod o fodiwlau yn Abertawe, gan gynnwys ‘Prydain a'r Byd, 1800-2000’, ‘Ymarfer Hanes’ ac ‘Ewrop Eithafion’. Mae hi'n arwain modiwl yn yr ail flwyddyn 'Ffoaduriaid yn yr Ugeinfed Ganrif' yn ogystal â modiwl MA 'Hanes Dyngarwch 1863-1971'.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau