Dr Jay Morgan

Tiwtor
Computer Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
015
Llawr Gwaelod
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae

Trosolwg

Derbyniodd Dr Jay Paul Morgan ei PhD o'r Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe. Mae'r gwaith hwn yn datblygu dulliau ynghylch sut i gyfuno gwybodaeth arbenigol â rhwydweithiau niwral dwys mewn llawer o feysydd gwyddonol. Mae Jay, drwy ei PhD, wedi gweithio ym meysydd arbenigol cemeg cwantwm, ieithyddiaeth ac astroffiseg.

Yn nes ymlaen, daliodd Jay swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Toulon, Ffrainc, fel rhan o Labordy CNRS-LIS. Ymchwiliodd y gwaith hwn, mewn cydweithrediad ag Arsyllfa Paris-Meudon, i sut gall technegau prosesu rhagarweiniol wella delweddu ein haul. Mae Jay bellach yn Diwtor mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae'n rhan o'r grŵp ymchwil Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol.

Mae Jay hefyd yn rhan o STRONG (tîm Abertawe sy'n ymchwilio i feithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein) a SING (Swansea Icons Norm Group) a gynhelir yn yr Adran Seicoleg.

Gwefan bersonol

Meysydd Arbenigedd

  • Dysgu Dwfn
  • Prosesu Iaith Naturiol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ystadegau

Dysgu Peirianyddol

Ieithoedd rhaglennu