Trosolwg
Mae Jamie D Stacey yn Diwtor Datblygiad Rhyngwladol Mae ei ymchwil yn torri ar draws dau brif faes: ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol/Gwleidyddiaeth/ Datblygiad Rhyngwladol, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar hawliau dynol, yn benodol sut mae dylanwadwyr gwleidyddol yn 'herio' a hyd yn oed yn ailddiffinio ystyr hawliau dynol. Yn y cyd-destun hwn, mae wedi ceisio deall sut mae hawliau dynol wedi cael eu herio yn ne-ddwyrain Asia, a sut mae ASEAN wedi gweithredu fel prif ddylanwadwr gwleidyddol wrth lywio’r disgwrs ynghylch hawliau dynol yn y rhanbarth (ASEAN and Power in International Relations: Routledge, 2020). Ym maes athroniaeth, mae'n ymddiddori mewn rhwymedigaeth foesol, lwc foesol ac athroniaeth yr hunan. Yn hyn o beth, mae'n gweithio ar brosiect sy'n ceisio deall i ba raddau y gellir dweud bod gennym rwymedigaeth foesol i fod yn (weddol) heini.
Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe (BA dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth, MA mewn Gwleidyddiaeth â Rhagoriaeth, PhD mewn Cysylltiadau Rhyngwladol), mae wedi bod yn ysgolhaig gwadd yng Nghanolfan yr UE yn Singapôr. Mae hefyd yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (2022) ac mae'n ymdrechu i gynnwys amrywiaeth o dechnegau addysgu (prociau, propiau, adrodd straeon) yn ei ymarfer addysgu. Ar wahân i'w waith academaidd, mae'n mwynhau celfyddydau ymladd, ioga, D&D, cael ei ddeffro am 12am, 2am a 4am gan fodau dynol bach, coginio mathau rhyfeddol ond deniadol o fara a phopeth sy'n cynnwys ceirch a datys. Mae hefyd yn ysgrifennu ffuglen, gan arbenigo mewn ffuglen fflach a nofelau. Mae ei nofel gyntaf, All the Waves, Calling (Black Pear Press, 2023) yn archwilio themâu colled, gwydnwch - a gobaith. Boed yn y byd academaidd neu mewn agweddau eraill ar ei fywyd, mae'n cael ei ddenu at straeon sy'n pwysleisio, yn annog ac yn grymuso.