Trosolwg
Mae Dr John William Devine yn Uwch-ddarlithydd Moeseg ac yn aelod o Grŵp Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon A-STEM.
- Galwyd ef i'r Bar yng Nghymru a Lloegr - y Deml Ganol
- DPhil – Prifysgol Rhydychen
- MPhil – Prifysgol Caergrawnt
- BA – Coleg Prifysgol Dulyn
Enillodd John William BA mewn Athroniaeth a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol y Coleg Dulyn, MPhil mewn Athroniaeth o Brifysgol Caergrawnt (Coleg y Brenin), a DPhil mewn Damcaniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Rhydychen (y Coleg Newydd).
Yn dilyn hyn, hyfforddwyd ef i fod yn fargyfreithiwr ac fe'i galwyd i'r bar yng Nghymru a Lloegr gan y Deml Ganol. Yn ystod ei hyfforddiant cyfreithiol, dyfarnwyd Ysgoloriaeth y Fam Frenhines a Gwobr Traethawd Lechmere iddo gan y Deml Ganol. Mae ganddo hefyd Ddiploma mewn Cyfraith Chwaraeon gan Gymdeithas y Gyfraith yn Iwerddon, pan dderbyniodd y wobr diwedd blwyddyn am berfformiad rhagorol.
Cyn cyrraedd Prifysgol Abertawe, bu'n gweithio yn adrannau athroniaeth Prifysgol Birmingham, Coleg y Brenin Llundain a Choleg y Drindod, Dulyn.
Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar athroniaeth wleidyddol ac athroniaeth chwaraeon. O ran athroniaeth wleidyddol, mae ei waith yn canolbwyntio ar foeseg wleidyddol a moeseg mewn swyddi gyhoeddus, yn enwedig cwestiynau moesegol o ran preifatrwydd, ymddiriedaeth ac uniondeb ar gyfer arweinwyr gwleidyddol mewn democratiaethau rhyddfrydol. Ym maes athroniaeth chwaraeon, mae ei waith yn canolbwyntio ar foeseg chwaraeon. Mae'n archwilio cwestiynau moesegol o ran gwella mewn monograff gyda'r teitl dros dro ‘Ethics, Excellence, and Enhancement in Sport’ (contract gyda Routledge).
Mae gan John William brofiad helaeth o ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae ei waith wedi bod ar BBC Radio 4 (‘The Moral Maze’), BBC World Service, Cycling Weekly, The Forum for Philosophy, The Irish Times, gwefan The Irish Examiner, a gwefan Prifysgol Rhydychen (cyfres ‘Oxford Debates’). Mae'n cyfrannu'n achlysurol i The Conversation, a gallwch weld ei erthyglau ar y platfform hwnnw yma.
Mae John William wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Cymdeithas Athroniaeth Chwaraeon Prydain ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cydbwyllgor Moeseg Annibynnol Heddlu De Cymru.