Professor Jason Davies

Yr Athro Jason Davies

Professor
Psychology

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604145

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i wedi gweithio mewn rolau clinigol ac academaidd ar draws amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys prifysgolion, unedau iechyd meddwl diogel uchel, canolig ac isel, carchardai a phrawf ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd, mae fy ngwaith - addysgu, ymchwil ac ymarfer clinigol - yn cwmpasu nifer o feysydd seicoleg fforensig a chlinigol, megis:

  • asesu, llunio a thrin unigolion sy'n cyflawni troseddau; y rhai hynny sy'n hunan-niweidio; y rhai hynny sydd â hanesion iechyd meddwl neu drawma cymhleth, neu anawsterau personoliaeth
  • cefnogi a goruchwylio staff sy'n gweithio mewn iechyd meddwl fforensig, cyfiawnder troseddol ac amgylcheddau eraill sy'n defnyddio ymagweddau sydd wedi'u llywio gan drawma
  • datblygu a phrofi ymyraethau newydd a gweithio gydag unigolion yn y system cyfiawnder troseddol a grwpiau eraill sy'n agored i niwed ac sy'n anodd ymgysylltu â nhw

Mae llawer o fy ngwaith yn cynnwys ymgysylltu ag asiantaethau a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys Byrddau Iechyd ac adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, gwasanaethau Carchardai a Phrawf, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector.

Rydw i'n seicolegydd fforensig, clinigol a hyfforddiant siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac yn seicolegydd fforensig a chlinigol cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).Rwy'n Gymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain ac yn Uwchgymrawd Advance HE.

Mae fy rôl fel academydd clinigol yn cyfuno gwaith fel Athro Seicoleg Fforensig a Chlinigol yn y Brifysgol ac fel Seicolegydd Fforensig a Chlinigol Ymgynghorol Arweiniol gyda bwrdd iechyd lleol.Mae fy ngwaith yn y Bwrdd Iechyd yn cynnwys arwain y tîm Ymchwil, Datblygu, Gwella, Arloesi, Archwilio a Dysgu (RDIIAL). Fi yw'r arweinydd ymchwil a gwerthuso gyda'r Llwybr Troseddwyr ag Anhwylder Personoliaeth yng Nghymru, ac mae gennyf nifer o rolau er anrhydedd ac allanol sy'n cynnwys:

  • Aelod o Banel Achredu a Chyngor Gwasanaethau Cywirol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (CSAAP)
  • Aelod o Bwyllgor Hyfforddiant Cenedlaethol Adran Seicoleg Fforensig Cymdeithas Seicolegol Prydain
  • Aelod o Rwydwaith Ymchwil Iechyd Troseddwyr (Cymru)
  • Asesydd Cenedlaethol ar gyfer Penodi Seicolegwyr Ymgynghorol (BPS)
  • Athro Er Anrhydedd (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
  • Arholwr Allanol - Prifysgol Nottingham, MSc mewn Seicoleg Fforensig

Meysydd Arbenigedd

  • Iechyd meddwl fforensig
  • Personoliaeth dywyll esp. personoliaeth sadistaidd
  • Ymyriadau seicolegol esp. i'r rhai sydd wedi troseddu
  • Goruchwylio ac ymgynghori staff
  • Datblygiad sefydliadol a gwerthuso gwasanaeth
  • Gwerthuso ymarfer / mesur canlyniadau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rydw i'n gyfarwyddwr rhaglen ar gyfer y radd MSc mewn Seicoleg Fforensig sydd ag achrediad Cam 1 Cymdeithas Seicolegol Prydain.

Mae fy niddordebau addysgu'n cynnwys asesu a thriniaeth mewn amgylcheddau fforensig, gweithio gyda thrawma ac iechyd meddwl cymhleth (seicosis ac anhwylder personoliaeth) ac ymagweddau at ddysgu a datblygiad proffesiynol drwy oruchwyliaeth, ymarfer myfyriol a hyfforddi.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau