Yr Athro Jiawei Wang

Athro ac Is-Ddeon ar gyfer Sefydliad Addysg ar y Cyd â Phrifysgol Dechnegol Nanjing
Chemical Engineering

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd yr Athro Jiawei Wang â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2024. Derbyniodd ei raddau Baglor a Meistr mewn Peirianneg Gemegol o Brifysgol Tsinghua yn Tsieina. Yna astudiodd am ei radd PhD mewn Cemeg gyda'r Athro Martyn Poliakoff ym Mhrifysgol Nottingham, gan weithio ar brosesu deunyddiau mewn hylifau uwch-gritigol. Ar ôl hynny, gweithiodd ym Mhrifysgol Birmingham, ar Gampws Tsieina Prifysgol Nottingham, ym Mhrifysgol Manceinion a Phrifysgol Aston. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw cymhwyso catalysis heterogenaidd mewn meysydd sy'n ymwneud ag ynni a'r amgylchedd.   

Meysydd Arbenigedd

  • Bioynni ac ynni adnewyddadwy
  • Ailgylchu gwastraff plastig
  • Catalysis a pheirianneg adwaith
  • Nanoddeunyddiau a nanogyfansoddion

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymchwil yr Athro Jiawei Wang yn canolbwyntio ar ddulliau arloesol a chynaliadwy mewn peirianneg gemegol, yn benodol yn y meysydd ailgylchu gwastraff plastig, ynni adnewyddadwy a catalysis. Mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at ddatblygiad technolegau glan, megis pyrolosis a phrosesau hydrothermol, ar gyfer trosi gwastraff plastig a biomas yn danwyddau a chemegau gwerthfawr. Mae ei waith yn integreiddio dysgu peirianyddol i optimeiddio prosesau fel pyrolysis catalytig plastigion, gan wella effeithlonrwydd ac effaith amgylcheddol. Yn ogystal, mae'r Athro Wang yn archwilio nanoddeunyddiau uwch ar gyfer cymwysiadau amgylcheddol a meddygol, gan gynnwys creu nanogyfansoddion i gyflenwi cyffuriau a deunyddiau carbon ar gyfer dal C02. Gydag ymrwymiad cryf i ddatrysiadau cynaliadwy, mae ei ymchwil yn cynnwys cydweithrediadau ar draws diwydiannau a sefydliadau academaidd rhyngwladol, gan sicrhau cyllid sylweddol a chreu cyhoeddiadau effaith uchel.