Professor Joanne Hudson

Yr Athro Joanne Hudson

Athro
Sport and Exercise Sciences
Swyddfa Academaidd - A109
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gan Joanne radd Anrhydedd mewn Addysg Gorfforol ac Astudiaethau Addysgol a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon Ddatblygiadol, y ddwy o Brifysgol Cymru, Bangor ac mae wedi addysgu ym myd Addysg Uwch ers 20 mlynedd.

Mae Joanne yn un o Gymrodorion Uwch yr Academi Addysg Uwch, yn Gymrawd BASES (Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain) ac yn Gymrawd Cysylltiol i’r BPS (Cymdeithas Seicolegol Prydain), mae hi’n Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff Siartredig gyda’r BPS, mae wedi cofrestru gyda Chyngor y Galwedigaethau Gofal Iechyd, ac mae ganddi Achrediad BASES am waith Ymchwil. Mae'n Gadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig Addysg ac Addysgu BASES, yn Arweinydd Thema Newid Ymddygiad ar gyfer Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, yn gyn-gadeirydd Is-adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff y BPS a Phwyllgor Sefydlog y BPS ar gyfer Datblygu Proffesiynol Parhaus ac yn Aelod o Fwrdd Golygyddol yr International Review of Sport and Exercise Psychology a'r International Journal of Environmental Research and Public Health.

Meysydd Arbenigedd

  • Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Modiwlau y mae'n eu haddysgu ar hyn o bryd:

SR144 - Sylfeini Gwyddor Ymarfer Corff

SR148 - Sylfeini Seicoleg Chwaraeon

SR256 - Gwyddor Ymarfer Corff: Ymyriadau a Chymwysiadau

SR314 – Ymarfer Corff ar gyfer Iechyd

SR311 – Traethawd Hir Ymchwil Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Ymchwil Prif Wobrau

Yr Athro Joanne Hudson: Darlith Agoriadol, 2022