Mae Dr Jones wedi cyflwyno ei hymchwil ar deithwyr Ewropeaidd i Gymru i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
Yn 2019 cynhaliodd weithdai gyda 284 o ddisgyblion blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 mewn ysgolion cynradd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn Abertawe, Llanelli, Aberhonddu a Chaerfyrddin. Roedd y rhain yn seiliedig ar e-lyfrau gweithgareddau dwyieithog ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 am Ffoaduriaid i Gymru. Dyma rai o'r lluniau siarcol a dynnwyd gan y plant yn arddull yr artist a’r ffoadur o Wlad Pwyl, Josef Herman. 'Mae'r gweithdy a'r deunyddiau'n cydweddu'n berffaith â nod craidd y Cwricwlwm Cymreig newydd i greu Dinasyddion Egwyddorol a Gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd' [athro Blwyddyn 6].
Nod y casgliad Perthyn i Gymru / Belonging to Wales a gomisiynwyd (2019, http://etw.bangor.ac.uk/files/PerthynIGymru-BelongingToWales.pdf) oedd hyrwyddo deialog am Gymru fel cyrchfan teithwyr a mudwyr, gweledigaethau sefydledig a phrofiadau trawsnewidiol o Gymru. Cafodd y llyfr ei ddosbarthu a’i drafod yn y digwyddiad 'Freedom Writers: Censorship in Turkey and Exile in Wales' yng Ngŵyl y Gelli 2019. Mae wedi cael ymatebion cadarnhaol gan ddarllenwyr - fe'i disgrifiwyd ar Twitter, er enghraifft, fel 'my dream book' gan Ffrances sy'n byw yng Nghymru. Gofynnodd y Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod annibynnol flaengar, am ganiatâd i ailargraffu ein pedwar teithlun a gomisiynwyd ar Gymru ac i ddefnyddio eu fframwaith ar gyfer cyfres bwysig newydd yn y fersiwn ar-lein (ClickOnWales) o'i chylchgrawn, The Welsh Agenda. Gan ddefnyddio’r un teitl â'r e-lyfr gennym, mae 'Perthyn i Gymru / Belonging to Wales' yn cynnwys 'straeon anhygoel gan bobl gyffredin ledled Cymru a'r tu hwnt. Bydd yn ymchwilio i sut mae unigolion yn meithrin ymdeimlad o berthyn i'w cymuned leol ac i'r genedl'. Yn ogystal â darparu platfform cynrychioladol ar gyfer alltudion yng Nghymru, megis y dramodydd Twrcaidd blaenllaw, Meltem Arikan [https://www.iwa.wales/click/2019/08/belonging-to-wales-from-turkey-to-trebinshun/], mae gwaith a gyhoeddwyd yn y gyfres newydd hon wedi rhoi cyfle i Ewropeaid sy'n byw yng Nghymru ar ôl Brexit gael eu clywed. Yn ogystal, ailgyhoeddwyd y straeon amlieithog hyn am gyrraedd Cymru ar wefan PEN Cymru, cymdeithas ryngwladol sy'n hyrwyddo llenyddiaeth ac yn amddiffyn rhyddid mynegiant ysgrifenwyr ledled y byd.
Cydweithredodd Dr Jones â'r sefydliad cymunedol, Dinas Noddfa Abertawe, i ddatblygu gweithdy cyhoeddus gydag oedolion sy'n dysgu. Mae'r gweithdy, a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 yn ystod yr ŵyl 'Being Human' a gynhelir ledled y DU, wedi arwain at ymwybyddiaeth gynyddol a dealltwriaeth well o brofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches hanesyddol a chyfoes a chafodd sylw yn y papurau newydd rhanbarthol a chenedlaethol. Yn ogystal, gwerthfawrogodd y cyfranogwyr y cyfle i gwrdd â cheiswyr lloches a chlywed am eu profiadau o fyw yn Abertawe.
Bu Dr Jones yn trefnu ac yn arwain cyfres o sgyrsiau a gweithdai cyhoeddus yn Amgueddfa Abertawe yn ystod yr arddangosfa EwrOlwg Cymru (16 Hydref 2015 - 26 Ionawr 2016).
- 16 Hydref 2015: Noson agoriadol ail leoliad taith EwrOlwg gyda sgwrs gan Heini Gruffudd.
- 24 Tachwedd 2015: “A European Traveller to Wales: Dr Jörg Bernig yn Amgueddfa Abertawe", noson gyda'r ysgrifennwr Almaeneg, Jörg Bernig, yn sgwrsio â Tom Cheesman.
- 28 Tachwedd 2015: Gweithdy i blant am draddodiadau'r Nadolig yn Ewrop.
- 15 a 17 Rhagfyr 2015: Gweithdy ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- 13 Ionawr 2016: Sgwrs gan Gwyn Griffiths: “Fraternity of the Onion sellers and Growers of Roscoff, Brittany.”
- 20 Ionawr 2016: Sgwrs gan Peter Lord: “Merthyr Blues: Heinz Koppel and His Location in the Welsh Art World.”
- 22 Ionawr 2016: Sgwrs gan Heini Gruffudd: “Kate Bosse-Griffiths: Two Identities.”