Trosolwg
Mae Dr Kai Zhang yn Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol. Mae diddordebau ymchwil Kai yn cynnwys gweithgynhyrchu haen-ar-haen, gweithgynhyrchu digidol, nodweddu in situ (delweddu a diffreithiad), delweddu cydberthynol a dysgu peirianyddol. Mae ganddo brofiad helaeth o ddatblygu technoleg gweithgynhyrchu newydd, ymchwilio i ficromecaneg, microstrwythurau a gweithgynhyrchu uwch mewn amrywiaeth o aloeon a deunyddiau gan ddefnyddio modelu a thechnegau uwch gan gynnwys EBSD ac HR-DIC in situ.
Mae'n gweithio'n agos gydag academyddion a diwydianwyr blaenllaw (gan gynnwys yn y sectorau awyrofod, niwclear, modurol, biofeddygol) i gynnal ymchwil gan ddefnyddio cyfleusterau mawr fel Diamond Light Source, Cyfleusterau Ymbelydredd Syncotron Ewropeaidd ac ISIS Neutron a Muon Source. Cyn ei rôl bresennol, roedd Kai yn Gymrawd Ymchwil ac yn Wyddonydd Gwadd yng Ngholeg y Brifysgol Llundain a Phrifysgol Manceinion, ac yn Ysgolhaig PhD y Llywydd yng Ngholeg Imperial Llundain.