A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.

Dr Luca Trenta

Athro Cyswllt
Politics, Philosophy and International Relations

Cyfeiriad ebost

014
Llawr Gwaelod
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Mae Dr Luca Trenta yn Athro Cyswllt mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, Prifysgol Abertawe.

Cafodd Ddyfarniad 2017 British Academy Rising Star Engagement am ei brosiect: ‘Out of the Shadows: understanding, researching and teaching covert action.’ Drwy'r prosiect, mae Dr Trenta wedi cynnal sawl digwyddiad ymgysylltu ac allgymorth mewn Ysgolion Cymraeg a Saesneg, yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. Mae tair pennod o bodlediad hefyd ar gael ar Soundcloud ac Apple Podcasts sy'n cynnwys pynciau fel gweithrediadau cudd a newid cyfundrefn. Cyn hynny derbyniodd grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig ar gyfer ei brosiect ar 'Targeted killing? The recurrence of assassination is US foreign policy.'

Mae ei waith ymchwil presennol yn canolbwyntio'n bennaf ar ymwneud llywodraeth yr Unol Daleithiau â lladd swyddogion tramor o'r Rhyfel Oer hyd heddiw. Mae wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion ym meysydd Cysylltiadau Rhyngwladol, Astudiaethau Cuddwybodaeth a Chyfraith Ryngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ar Weinyddiaeth Ford a datblygiad gwaharddiad yr UD ar fradlofruddio, ar ddefnydd Gweinyddiaeth Obama (a chyfreithloni) o fradlofruddio wedi'i dargedu, ac ar fabwysiadu’n rhyngwladol syniad estynedig o enbydrwydd i gyfiawnhau defnyddio lluoedd i hunanamddiffyn.

Cyn hynny, cyhoeddodd fonograff ar risg a gwneud penderfyniadau arlywyddol gyda Routledge. Mae hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau a phrosesau gwneud penderfyniadau arlywyddol yn The European Journal of International Security, Diplomacy and Statecraft ac yn The Journal of Transatlantic Studies.

Yn 2020, ymddangosodd Dr Trenta mewn pedair pennod o gyfres ddogfen ar yr History Channel, Secret Wars Uncovered. Mae wedi gweithio gyda  BBC Radio 3 ar y Rhaglen  Free Thinking yn ogystal â  gweithio gyda Being Human Festival for the Humanities. Mewn cydweithrediad â'r Athro Rory Cormac, mae Dr Trenta wedi trefnu sgwrs yng Ngŵyl Lenyddiaeth Ryngwladol y Gelli. Gyda BBC Ideas mae wedi cynhyrchu ffilm fer ar hanes bradlofruddio. Mae hefyd yn cyfrannu'n rheolaidd  at The Conversation,  Talk RadioNation Radio, a BBC Radio Wales.

Meysydd Arbenigedd

  • Cysylltiadau Rhyngwladol
  • Polisi Tramor yr Unol Daleithiau
  • Y Rhyfel Oer
  • Gweithrediadau Cudd
  • Astudiaethau Cuddwybodaeth
  • Bradlofruddiaethau a lladd wedi’i dargedu
  • Dronau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Damcaniaethau Cysylltiadau Rhyngwladol,

Polisi Tramor yr Unol Daleithiau

Y Rhyfel Oer

Gweithrediadau Cudd-wybodaeth a Chudd

Ymchwil Prif Wobrau