Trosolwg
Ar hyn o bryd mae Dr Lu Zhang yn ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Abertawe. Derbyniodd radd BEng mewn Peirianneg Electronig a Gwybodaeth o Brifysgol Xidian, Tsieina yn 2016 a gradd MSc (gyda Rhagoriaeth) mewn Cyfathrebu Symudol o Brifysgol Loughborough, y DU yn 2018. Derbyniodd wobr Clarke-Griffiths am y Myfyriwr Gorau gan Brifysgol Loughborough yn 2018. Derbyniodd ei gradd PhD o Brifysgol Loughborough yn 2022 (goruchwylwyr: Yr Athro Sangarapillai Lambotharan a'r Athro Gan Zheng). Cyn y swydd hon, bu'n gymrawd ymchwil ym maes systemau seiber ym Mhrifysgol Warwig, gan weithio gyda'r Athro Carsten Maple.
Mae diddordebau ymchwil Dr Lu Zhang yn eang, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ddysgu dwfn a dysgu gwrthwynebol. Yn ogystal â hyn, mae gan Dr Lu Zhang ddiddordeb yn y croestoriadau rhwng dysgu dwfn a dysgu gwrthwynebol mewn perthynas â sawl problem yn y byd go iawn gan gynnwys cyfathrebu diwifr, seiberddiogelwch (yn enwedig modelu bygythiadau, dadansoddi risgiau a darganfod tresmasu) a thechnegau prosesu delweddau (yn benodol delweddau SAR a delweddau meddygol). Gwasanaethodd Dr Lu Zhang fel adolygydd ar gyfer nifer o gyfnodolion a chynadleddau o fri gan gynnwys cyfnodolion IEEE Internet of Things ac IEEE Wireless communication Letters a chynhadledd IEEE Globecom.