Trosolwg
Mae’r Dr Marie-Luise (Mel) Kohlke yn ymchwilydd blaenllaw ym maes Astudiaethau Neo-Fictoraidd, ac yn Olygydd Cyffredinol yr e-gyfnodolyn arloesol, mynediad agored Neo-Victorian Studies (http://neovictorianstudies.com/), a gafodd ei sefydlu ganddi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2008, ac yn Gyd-Olygydd Brill|Rodopi’s Neo-Victorian Series. Yn ogystal, ar hyn o bryd mae'n cyd-olygu rhifyn arbennig 2021 ar 'Neo-Victorian Heterotopias' ar gyfer y cyfnodolyn mynediad agored Humanities. Mae hi hefyd yn arbenigo ym meysydd rhyngddisgyblaethol llenyddiaeth a damcaniaeth trawma, astudiaethau rhyw a rhywioldeb, cof diwylliannol (yn enwedig cof am wrthdaro a thrais), y Gothig, bioffuglen a daearyddiaethau llenyddol. Mae Mel yn aelod o Grwpiau Ymchwil Prifysgol Abertawe, Rhyw mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS) a Gwrthdaro, Ail-luniad a Chof (CRAM), ac yn Aelod Cyswllt o Brosiect ORION Sbaeneg: Orientation: Towards a Dynamic Understanding of Contemporary Fiction and Culture (1990au-2000au), dan arweiniad yr Athro Rosario Arias o Brifysgol Malaga. Mae Mel yn croesawu’n arbennig gynigion PhD ar bynciau neo-Fictoraidd ond mae hefyd yn hapus i oruchwylio traethodau ymchwil ar bynciau eraill sy'n ymwneud â'i meysydd arbenigedd.
Mae diddordebau ymchwil Mel wedi'u halinio'n agos â'i haddysgu, sy'n cwmpasu modiwl ar Memory and Identity in Film and Literature ar y Flwyddyn Sylfaen, cwrs y flwyddyn gyntaf Monsters, Theories, Transformations, a’r seminar dewisol Reading/Writing Trauma ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn olaf, sy'n cwmpasu gwaith amrywiol o lenyddiaeth yr Holocost i ysgrifennu Palesteinaidd a thestunau ôl-wladychol. Ar lefel MA, mae'n cynnig seminar poblogaidd Neo-Victorian Mutinies, sy'n archwilio gwrthdaro llenyddol a ffilm ag agweddau tywyllach imperialaeth Gorllewinol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwleidyddiaeth hiliol a rhyw'r cyfnod gartref a thramor, a'u gwaddol heddiw. Mae Mel hefyd yn cynnull y Gweithdy Ysgrifennu ar gyfer Cyhoeddi Academaidd ar gyfer ôl-raddedigion ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, sy'n cynorthwyo myfyrwyr i gyhoeddi erthyglau ochr yn ochr â'u traethodau ymchwil.