Trosolwg
Mae Dr Martin Gill yn dod o ardal Llanelli yn wreiddiol ac enillodd radd BSc (Anrh) mewn Cemeg o Brifysgol Bryste ac yna PhD mewn Cemeg o Brifysgol Sheffield dan oruchwyliaeth yr Athrawon Jim Thomas a Giuseppe Battaglia. Bu Martin yn aros yn ninas wych Sheffield â Chymrodoriaethau Ôl-ddoethurol gan yr EPSRC ac Ymddiriedolaeth Wellcome gyda'r Athro Carl Smythe cyn symud ymlaen i Brifysgol Rhydychen a'r grŵp Radiotherapiwteg Arbrofol dan arweiniad yr Athro Katherine Vallis. Yn 2019, dychwelodd Martin i Gymru i ddechrau ei yrfa ymchwil annibynnol yn yr Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ei amser hamdden, mae ef yn cefnogi'r Scarlets a Chymru ac yn mwynhau teithio.