Trosolwg
Graddiais mewn Cemeg Organig yn yr Eidal yn 2004 cyn symud i Brifysgol Caerdydd i gael PhD mewn Cemeg Defnyddiau Organig yn 2008, gyda phrosiect yn seiliedig ar synthesis a phennu nodweddion polymerau newydd sydd â micromandylledd cynhenid (Polymers of Intrinsic Microporosity -PIMs) o dan oruchwyliaeth yr Athro Neil B. McKeown.
Ar ôl y PhD, gweithiais fel Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd (2008-2013) a Phrifysgol Caeredin (2014-2017). Ym mis Hydref 2017, cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe lle cefais fy nyrchafu’n Uwch-ddarlithydd ym mis Mawrth 2020.
Yn 2017, llwyddais i gwblhau’r Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd (PgCAP) ym Mhrifysgol Caeredin ac oherwydd hynny, rwyf bellach yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA).
Rwyf hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC) ac yn Llysgennad STEM.