Dr Chris Summers

Dr Chris Summers

Darlithydd mewn Anatomeg, Medicine

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1171

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
154A
Llawr Gwaelod
Adeilad Grove
Campws Singleton

Trosolwg

Datblygodd Chris gariad at anatomeg ac addysg feddygol am y tro cyntaf wrth astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Nottingham. Ar ôl iddo raddio fe weithiodd fel meddyg a chafodd ei dynnu at arbenigeddau llawfeddygol ond gadwodd ei angerdd dros addysgu trwy ddarlithio ym Mhrifysgol Abertawe fel darlithydd er anrhydedd.

Yn 2016 cadarnhawyd ei angerdd dros addysgu pan gymerodd swydd fel Cofrestrydd Addysgiadol mewn Otorhinolaryngoleg ym mwrdd iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mireionidd y rôl hon dros fwy na 6 mlynedd, ac mae'n parhau i wneud y gwaith mewn capasiti anrhydeddus heddiw. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ddyluniodd ac adeiladodd adnodd addysgu rhyngwladol ar y cyd ar gyfer y Glust, y Trwyn, a'r Gwddf (ENT), gyda dyluniadau meddygol gwreiddiol, lluniau clinigol, fideos a deunydd aml-gyfrwng arall. Mae gan y safle isadrannau pwrpasol sy'n cynnwys cwricwla ar gyfer myfyrwyr meddygol Abertawe meddygon gofal cynradd y glust yn Nghambodia a myfyrwyr meddygol sy'n astudio ym Mhrifysgol Gambia. Mae'r safle wedi derbyn trawiadau mewn dros 165 o wledydd yn fyd-eang, ac mae'n tanategu ei angerdd dros integreiddio technoleg a chreu amgylchedd dysgu gyfunol ar sail trochi.

Yn 2017 treuliodd Chris bythefnos ym Mhrifysgol Gambia lle bu ef a chydweithiwr yn cyd-gynllunio, cyflwyno ac asesu cwrs addysgu ENT cyfoes a oedd yn canolbwyntio ar batholeg a welwyd yng ngorllewin Affrica. Cafodd y cwrs ei groesawu’n frwd gan fyfyrwyr a chydweithwyr yn y Brifysgol fel ei gilydd.

Yn 2018 cafodd yr anrhydedd o ennill gwobr yr unigolyn mwyaf addawol gan Brifysgol Abertawe am ei ymroddiad i addysgu. Fe'i hysbrydolwyd gan hyn i ddilyn y trywydd hwn ymhellach drwy ddod yn bennaeth anatomeg ar gyfer MSc Cydymaith Meddygol (PA) ym Mhrifysgol Abertawe. Symudiad a brofodd yn llwyddiannus ar ôl iddo fynd ymlaen i ennill gwobr Rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu yn 2020 ac eto yn 2021.

Ers 2021 mae Chris wedi'i gyflogi fel darlithydd llawn amser mewn anatomeg yn ysgol feddygaeth Prifysgol Abertawe ond mae'n parhau i ymarfer yn glinigol mewn capasiti anrhydeddus. Mae e hefyd yn parhau i ymwneud ag addysgu clinigol, Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE), a gosod a diwygio safonau yn yr ysgol feddygaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Anatomeg o bersbectif clinigol
  • Anatomeg y pen a’r gwddf
  • Darlunio meddygol
  • Hanes Meddygaeth, Anatomeg a sut gaiff ei gynrychioli yn y Celfyddydau
  • Bioleg esblygiadol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Ail wobr yng ngwobr unigolyn mwyaf addawol Cymdeithas Feddygol Prydain 2018

Enillydd gwobr unigolyn mwyaf addawol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe 2018

Enillydd gwobr cyflwyniad llafar y dydd. Cynhadledd Cymdeithas Hanes ENT Prydain 2019

Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe 2021