Trosolwg
Mae Dr Nia Davies yn fardd, yn awdur-olygydd ac yn ymchwilydd sy'n arbrofi â pherfformiad, ymarfer ymgorfforedig, amryw gyfryngau ac ysgrifennu hybrid.
Gwnaeth ei chasgliad cyntaf o gerddi hyd llyfr All fours (Bloodaxe Books, 2017) gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Roland Matthias am Farddoniaeth (2018) a chyrraedd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Goffa Michael Murphy am Gasgliadau Cyntaf (2019). Gwnaeth hyn ddilyn y pamffledi a'r llyfrau bach England (Crater, 2017), Çekoslovakyalılaştıramadıklarımızdanmısınız or Long Words (Hafan/Boiled String, 2016), Then Spree (Salt, 2012) a chyhoeddiadau ar y cyd eraill. Caiff ei hail gasgliad o gerddi, Votive Mess ei gyhoeddi gan Bloodaxe ym mis Hydref 2024.
Cwblhaodd ei thraethawd ymchwil doethurol ar sail ymarfer ar farddoniaeth a pherfformiad defodol ac enillodd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Salford yn 2021. Mae ei gwaith presennol yn canolbwyntio ar ymarfer creadigol rhyngddisgyblaethol, ymgorfforiad, ecoleg, rhywioldeb, arbrofi, cymdeithas ddigidol ac AI, cyfieithu, Cymru a’r Gymraeg, ac ymarfer celf rhyngddiwylliannol.
Mae Nia hefyd wedi gweithio ledled y byd fel curadur llenyddol a golygydd. Roedd hi'n olygydd cylchgrawn rhyngwladol chwarterol Poetry Wales o 2014 i 2019 ac wedi cyd-guradu gwyliau barddoniaeth a pherfformiad Poetry Emergency yn 2018 a 2019. Mae hi hefyd wedi gweithio ar gydweithrediadau llenyddol rhyngddiwylliannol a phrosiectau cyfieithu gyda Literature Across Frontiers yn Sefydliad Mercator; roedd hyn wedi cynnwys gweithio ar brosiect Cysylltiadau Barddoniaeth rhwng Cymru ac India. Ar hyn o bryd, mae'n rhan o dîm curadu cyfres o ddigwyddiadau arbrofol yn ne Cymru, Nawr, ac mae'n cefnogi Pamenar press.