Dr Peter Weck

Dr Peter Weck

Swyddog Ymchwil
Physics

Cyfeiriad ebost

515A
Pumed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Dr Weck yn gweithio'n bennaf ym maes ffiniau ynni isel damcaniaeth llinynnau, lle gellir brasamcanu ffiseg disgyrchiant cwantwm gan ddefnyddio damcaniaethau disgyrchiant. Drwy astudio union ddatrysiadau'r damcaniaethau disgyrchiant hyn, gallwn ddysgu am natur Damcaniaethau Maes Cwantwm sy'n disgrifio rhyngweithiadau rhwng gronynnau, am ddisgrifiadau microsgopig posib o ran tyllau duon ac am gysylltiadau dwfn rhwng meysydd ymchwil gwahanol mewn ffiseg.  Derbyniodd ei PhD mewn Ffiseg yn 2023 o Brifysgol Johns Hopkins ac mae wedi bod yn rhan o'r grŵp damcaniaeth yn Abertawe ers mis Hydref 2023. 

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ei waith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar ddulliau sy'n creu atebion ar gyfer geometregau di-haen llyfn ac anti-de Sitter yn asymptotig.  Gall yr atebion soliton disgyrchol hyn ein helpu i ddeall cyfyngiadau mewn perthynas â damcaniaethau mesur, gan ddefnyddio holograffeg. Gallent hefyd chwarae rôl wrth ystyried entropi tyllau duon yn nhermau eu micro-gyflyrau.  Bydd dulliau mwy systematig ar gyfer llunio ac astudio solitons disgyrchol, gan gynnwys cymesuredd uwch penodol, yn helpu i ddatblygu'r ddau lwybr ymchwil.