Trosolwg
Mae Caner Sayan yn Ddarlithydd mewn Dadansoddi Polisi ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn dod i Abertawe, roedd yn Gymrawd Ymchwil mewn Dŵr a Gwydnwch ym Mhrifysgol Cranfield, yn Gymrawd Ôl-ddoethur mewn Diogelwch Dŵr yn United Nations University Institute for Water, Environment and Health (UNU-INWEH), ac yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Dundee. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth amgylcheddol, dŵr a datblygu, gydag arbenigedd mewn cyfiawnder amgylcheddol, ecoleg wleidyddol, gwydnwch a gwleidyddiaeth dyfroedd trawsffiniol. Mae ei ffocws rhanbarthol ar y Dwyrain Canol a Thwrci ac Affrica Is-Sahara (De Affrica, Kenya, Basn Llyn Tsiad a Basn Afon Congo).
Mae ei erthyglau fel awdur unigol ac ar y cyd wedi cael eu cyhoeddi mewn sawl man, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, International Affairs, Water Alternatives, Energy Research & Social Science, Local Environment a Territory, Politics, Governance.