Trosolwg
Mae Rob yn ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y gorffennol, bu ganddo swyddi addysgu ym Mhrifysgol Bryste, Prifysgol Leeds, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerhirfryn. Cwblhaodd gymrodoriaeth ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Leeds yn 2019, ar ôl iddo gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Manceinion yn 2015. Ei feysydd arbenigedd ymchwil yw metaffiseg, epistemoleg, athroniaeth iaith ac athroniaeth mathemateg. Mae'n ymddiddori'n benodol mewn sut mae mathemateg yn hwyluso cynrychioli ac egluro'r byd ffisegol, beth yw maes pwnc mathemateg a sut mae gwybodaeth fathemategol yn bosib: