An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Regina Poertner

Dr Regina Poertner

Honorary Associate Professor (Culture and Communications)
Culture and Communications School

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602391

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy mhrif arbenigedd a’m diddordebau yn hanes y gyfraith, ei sylfeini deallusol, a’i hymwneud â chymdeithas a’r economi. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn diwygio cyfreithiol a’i gyfyngiadau. Mae fy niddordebau ymchwil eraill yn ymwneud â hanes syniadaeth wleidyddol orllewinol. 

Dechreuais ym maes y cyfnod modern cynnar, ac mae fy nghyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys monograffau ar y Gwrth-Ddiwygio yn y frenhiniaeth Habsbwrg (OUP 2001), ac ar ddadleuon cyfansoddiadol Rhyfel Cartref Prydain (Duncker & Humblot, Berlin, 2009). Mae fy ymchwil wedi’i ariannu’n allanol gan yr Academi Brydeinig a chyrff ariannu rhyngwladol, ac ar hyn o bryd rwy’n Brif Ymchwilydd ar brosiect a ariennir gan yr AHRC mewn cydweithrediad â’r Oriel Bortreadau Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gennyf brofiad o weithio gyda’r cyfryngau ac ysgolion, a gyda sefydliadau partner yn y DU, Ewrop, a’r Unol Daleithiau. Mae gennyf ddiddordeb mewn datblygu cydweithrediadau pellach gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. 

Rwy’n croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig, a byddwn yn hapus i roi cyngor ar bynciau addas ar gyfer prosiectau ymchwil Meistr a PhD.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes Modern Cynnar (1450-1800)
  • Hanes y Gyfraith
  • Hanes Syniadaeth Wleidyddol y Gorllewin