Trosolwg
Mae Rhys Jones yn cydlynu'r MA Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n dysgu ar fodiwlau ôl-raddedig ac israddedig yn y cyfryngau a chyfathrebu. Mae'n arbenigo mewn theori cyfryngau ac yn dod â'i arbenigedd ymarferol fel ymchwilydd a rhaglennydd i'w ddysgu.
Mae'n ymchwilio i dechnolegau ar adegau cynnar yn y broses o’u derbyn (neu beidio) i fewn i gymdeithas. Mae wedi cyhoeddi ar hanes a statws presennol yr iaith Gymraeg ar-lein, a’r ffordd y dychmygwyd y rhyngrwyd mewn papurau newydd yn gynnar yn y 1990au.