Trosolwg
Yn ogystal â bod yn aelod o dîm addysgu'r Cyfryngau, mae Richard yn Bennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Yn y rôl hon, mae'n goruchwylio gweithrediadau meysydd pwnc Llenyddiaeth Saesneg, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Ieithoedd Modern, Cymraeg, Hanes, y Clasuron a'r Cyfryngau.
Ac yntau'n arbenigwr mewn dulliau ymchwil y cyfryngau, mae'n addysgu amrywiaeth o fodiwlau sy'n astudio'r ffordd mae'r newyddion ar blatfformau amrywiol yn adrodd am elfennau allweddol bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn adlewyrchu ei ymchwil, sy'n ymwneud â meintoli a dehongli tueddiadau a phatrymau yn y sylw a roddir i economeg, busnes, cyllid, gwleidyddiaeth a gwrthdaro gan amrywiaeth o sianelau newyddion, yn amrywio o'r teledu a'r radio i blogiau ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasol. Un o'i brif feysydd diddordeb yw cyfathrebu gwleidyddol a thriniaeth o etholiadau yn y cyfryngau amgen. Mae'n gyd-awdur "Reporting Elections: Rethinking the Logic of Campaign Coverage” ac mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau llyfrau. Mae wedi cyflwyno ei ymchwil mewn nifer o brifysgolion eraill a chynadleddau rhyngwladol.
Bu'n Gyd-ymchwilydd mewn prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe a archwiliodd newyddion gwleidyddol amgen ar-lein. Derbyniodd y prosiect hwn £517,000 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a’r disgwyl oedd y byddai’n dod i ben yn 2022. Mae hefyd wedi bod yn ymgymryd ag ymchwil arall a gomisiynwyd gan reoleiddwyr y cyfryngau ac yn gweithio gyda nhw. O ganlyniad, mae gan ei waith effaith sylweddol ar newyddiaduraeth yr unfed ganrif ar hugain. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gylchgronau a phapurau newydd ac ef yw awdur "Cricketing Lives: A Characterful History from Pitch to Page", llyfr hynod lwyddiannus sy'n olrhain hanes criced.
Mae'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch ac mae wedi bod yn arholwr allanol ac yn aelod panel allanol i gymeradwyo a dilysu rhaglenni gradd mewn nifer o brifysgolion gwahanol. Mae'n arholwr PhD profiadol, ac yn Gadeirydd Byd-eang Bwrdd Cynghori ar Raddau ar y Cyd Erasmus Mundus, gan weithio gyda newyddiadurwyr ledled y byd. Mae'n aelod o dîm Arweinyddiaeth y Gyfadran ac yn aelod hefyd o Senedd y Brifysgol.