Trosolwg
Derbyniodd Dr Roland Gillen ei PhD mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (EEE) o Brifysgol Caergrawnt a gradd gyfwerth ag MEng mewn Gwyddor Peirianneg o Brifysgol Dechnegol Berlin, yr Almaen.
Mae'n ymddiddori ym mhriodoleddau electronig, optegol a dirgrynol deunyddiau lled-ddargludol a sut gellir eu defnyddio ar gyfer dyfeisiau electronig ynni-effeithlon. I'r perwyl hwn, defnyddir dulliau sbectrosgopeg ddamcaniaethol fmodern ar gyfer nodweddu cyfrifiadol, gan ategu ymchwiliadau arbrofol yng nghyd-destun cydweithrediadau amrywiol.
Mae un pwyslais ymchwil penodol ar nanoddeunyddiau newydd un dimensiwn a dau ddimensiwn ac ar heteroadeileddau gweithredol rhwng deunyddiau lled-ddargludol.