Ym 1993, roeddwn yn un o bum enillydd potel o siampên vintage a gynigiwyd gan Weinidog Gwyddoniaeth y DU ar y pryd, William Waldegrave, am y disgrifiad gorau ar un ochr A4 o’r Higgs Boson a pham y dylem wneud ein gorau glas i chwilio amdano. Daeth Peter Higgs draw i Brifysgol Abertawe yn 2012 ychydig ddyddiau ar ôl i CERN gyhoeddi’r darganfyddiad boson, a gallwch wylio’r cyfweliad wnes gydag ef yn https://www.youtube.com/watch?v=HYOsRPlW6Ng
Mae byd cwarciau a glwonau poeth wedi’i ddisgrifio o safbwynt anghyffredin mewn nofel graffig alegorïaidd yn cynnwys yr archarwyr Thor, Sif and Loki. Fe wnes i helpu gyda’r cyfieithiad Saesneg a welir yma.
Yn ystod cyfnod clo Covid-19, cyflwynais sgwrs ar ffurf gweminar i ysgolion ar ‘Special Relativity and the Twin Paradox’, https://www.youtube.com/watch?v=2VDeax6aNV8