Trosolwg
Mae Simon yn Athro Cysylltiol mewn Fferylliaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Simon yw'r arweinydd clinigol, rhagnodi a lleoliadau.
Cymhwysodd fel fferyllydd ym 1999 yn dilyn blwyddyn cyn-gofrestru mewn fferyllfa gymunedol. Yna fe reolodd fferyllfa gymunedol brysur, cyn dechrau gyrfa yn y byd academaidd, i ddechrau fel athro fferyllydd ymarferydd.
Cyn dod i Brifysgol Abertawe, roedd gan Simon bortffolio amrywiol o swyddi addysgol ac arweinyddiaeth, gan gwmpasu'r sectorau addysg uwch, y GIG a Llywodraeth Cymru. Mae ganddo bron i 20 mlynedd o brofiad addysgu, gan gynnwys degawd mewn swyddi uwch reolwyr, ac mae'n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil pedagogaidd, dylunio a darparu rhaglenni addysg wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion ar draws y proffesiynau gofal iechyd a gwyddoniaeth.
Ar wahan i waith ac astudio, mae prif ddiddordebau Simon yn cynnwys bod yn egnïol trwy chwaraeon a theithio. Mae wedi rhedeg bron i 100 hanner marathon a marathon ledled Ewrop a Gogledd America ac mae hefyd yn mwynhau beicio mynydd a rhwyfo.