Yr Athro Prem Kumar

Cadair Bersonol
Physics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602283

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Prem Kumar yn aelod o'r grŵp Theori Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg (PPCT). Mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â rhyngwyneb Damcaniaeth Maes Cwantwm a Damcaniaeth / Disgyrchiant Llinynnau.

Ar ôl cwblhau gradd israddedig mewn peirianneg drydanol o’r Indian Institute of Technology Madras, cafodd Prem radd PhD mewn ffiseg damcaniaethol o Brifysgol Carnegie Mellon, UDA, ym 1998, ac wedi hynny cafodd swyddi ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Washington, Seattle a Chaergrawnt. Cafodd Gymrodoriaeth Uwch 5 mlynedd y Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth (PPARC) ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae’n aelod o’r gyfadran ers 2005 ac yn Athro ers 2012.

Meysydd Arbenigedd

  • Damcaniaeth Maes Cwantwm
  • Deuoliaeth Damcaniaeth Llinynnau a medrydd/disgyrchiant
  • Damcaniaethau Yang-Mills Tra-chymesur
  • Damcaniaeth Maes Thermal
  • Hap Fodelau Matrics