An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Llun proffil o Dr Sarah Crook

Dr Sarah Crook

Uwch-ddarlithydd
History

Cyfeiriad ebost

139
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n gweithio ar hanes Prydain fodern ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn hanes menywod, hanesion myfyrwyr a hanes meddygaeth. Mae fy monograff cyntaf, Postnatal depression in postwar Britain: Women, motherhood, and social change (MUP), yn archwilio sut daeth heriau bod yn fam i'r amlwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae fy ymchwil bresennol, ar gyfer fy ail fonograff, Student Mental Health in Modern Britain, yn archwilio hanes iechyd meddwl myfyrwyr.

Rwy'n un o gyd-olygyddion y cyfnodolyn Twentieth Century British History. Ar y cyd â Sarah Kenny, rwy'n cyd-olygu Routledge Handbook of Contemporary British History ar hyn o bryd. Mae'r gwaith hwn dan gontract a chaiff ei gyhoeddi yn 2026. Fi yw cyfarwyddwr GENCAS (Canolfan Ymchwil i Rywedd a Diwylliant mewn Cymdeithas), canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Abertawe.

Rwy'n cyfrannu'n rheolaidd at BBC History Magazine, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu i Times Higher Education a Fabian Review.

Rwyf wedi cael grantiau gan Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil i'r Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Ar hyn o bryd, rwy'n un o gyd-ymchwilwyr U-Belong, prosiect gwerth miliynau o bunnoedd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol sy'n mabwysiadu ymagwedd ryngddisgyblaethol at ddeall unigrwydd myfyrwyr.

Cyn cael fy mhenodi'n ddarlithydd yn Abertawe, fi oedd Cymrawd Iau Syr Christopher Cox yn y Coleg Newydd ym Mhrifysgol Rhydychen. Cwblheais fy PhD yn Ysgol y Frenhines Mair yn Llundain ar ôl ennill MSt mewn Astudiaethau Menywod yng Ngholeg Keble, Rhydychen, a gradd israddedig ym Mhrifysgol Sussex.

Y tu allan i'r byd academaidd, rwy'n cweryla â'm plant bach ac yn pobi (yn wael).   Byddaf ar absenoldeb mamolaeth yng ngwanwyn 2024.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanesion ffeministiaeth
  • Hanes pobl cwiar
  • Hanesion mamau a'r teulu
  • Hanesion prifysgolion a'u cymunedau
  • Hanesion iechyd meddwl a seiciatreg
  • Hanesion gweithredu ym Mhrydain wedi'r rhyfel

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Hanes gweithredu a mudiadau protest
  • Hanesion ffeministiaeth
  • Hanesion rhyw a rhywedd
  • Hanesion iechyd meddwl a seiciatreg
  • Hanesion y 1960au, y 1970au a'r 1980au ym Mhrydain

Yn 2023-2024, rwy'n mentora Ryan Tristram-Walmsley, Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a byddwn yn falch o gefnogi ceisiadau ôl-ddoethurol eraill.

Byddai'n bleser gennyf drafod gwaith goruchwylio doethurol ar feysydd sy'n ymwneud â hanes prifysgolion a phobl ifanc, hanes ffeministiaeth, neu hanes seiciatreg.

Ymchwil