Trosolwg
Tudur Hallam yw Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n Brifardd, yn Gymrawd Fulbright ac yn aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Ef yw Cadeirydd Cymeithas Astudiaethau’r Gymraeg ac mae’n aelod o fwrdd gweithredu’r Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol ym maes Astudiaethau Celtaidd dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Ymunodd ag Adran y Gymraeg, Abertawe yn 1999. Fe’i penodwyd i Gadair y Gymraeg yn 2011. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn eang, a hynny’n rhannol gan iddo ddechrau dysgu yn yr Adran ym maes cymdeithaseg iaith a chyfieithu, ond mae bellach yn dysgu modiwlau llenyddol ac ysgrifennu creadigol.
Mae’n enedigol o Benybanc, pentref ar gyrion Rhydaman/Ammanford, ac mae’r profiad o gael ei fagu yno rhwng dwy iaith yn greiddiol i’w holl waith. Meddai yn un o’i gerddi:
Mae’n ffaith fod ’na Ammanfo’d,
a honno’n dre reit hynod;
eto gwn na wyddwn i
yn uniaith ddim amdani.
Yn Rhydaman y’m ganed.
Hi’n llwyr yw fy hyd a’m lled.
Mae diwylliant y Gymraeg a’i hyrwyddo o’r pwys mwyaf iddo. Mae ganddo deulu yn Y Felinheli ac yn Nhredegar, ac mae’r syniad o ‘Gymru’n un’, chwedl y bardd Waldo Williams, yn un real iawn iddo.
Yn 2016-2017, cafodd gyfle i fyw a gweithio yn UDA, ac mae’r elfen gymharol – cymharu diwylliant Cymru ag eiddo gwledydd eraill – yn hydreiddio ei waith.
Wedi cyfnodau o fyw yn Aberystwyth, Abertawe a Houston yn fwy diweddar, mae’n byw gyda’i deulu yn Foelgastell, Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd. Yn lleol, mae’n llywodraethwr ysgol ac yn rhan o dîm hyfforddi pêl-droed i blant a phobl ifanc yng Nghwm Gwendraeth.