Trosolwg
Mae Dr Yaonan Hou yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Electronig a Thrydanol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo ddiddordeb mewn dyfeisiau ffotonig lled-ddargludol a systemau integredig ffotonig. Mae themâu ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddylunio, creu, cynhyrchu, nodweddu ac integreiddio dyfeisiau ffotonig lled-ddargludol.