Trosolwg
Mae Dr Yuanting Qiao yn arbenigwr ym maes dal a defnyddio carbon, a chanddi wybodaeth helaeth am asesiad cylch bywyd, dadansoddiad technegol-economaidd, a dadansoddiad cymdeithasol. Mae ganddi brofiad helaeth o Ddal a Defnyddio Carbon (CCUS) ar raddfa fwy a masnacheiddio hynny, ar ôl gweithio fel ymchwilydd yng nghanolfan Dal a Defnyddio Carbon Tsieina-DU, ac fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Sheffield a Phrifysgol y Frenhines Belfast. Mae Dr Qiao hefyd wedi cyfrannu at nifer o brosiectau Dal a Defnyddio Carbon rhyngwladol arwyddocaol.
Yn ogystal, mae gan Dr Qiao gefndir cryf mewn gwyddor deunyddiau. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio deunyddiau a dulliau cynaliadwy i leihau allyriadau CO2 i gyfrannu at yr economi gylchol. Mae hi wedi archwilio amryw o ddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff biomas a pholymerau, i ddatblygu arsugnyddion CO2.