Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
-
20 Rhagfyr 2019Cyhoeddi llyfr testun newydd ar fwydo ar y fron
Heddiw cyhoeddir llyfr testun newydd gyda'r bwriad o gefnogi'r proffesiwn meddygol i roi arweiniad cywir a diweddar ar fwydo ar y fron.
-
20 Rhagfyr 2019Astudiaeth newydd yn dangos sut y gall gwerthoedd iechyd cleifion effeithio ar driniaeth hanfodol llawr y pelfis
Mae ymchwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe wedi datgelu y gall gwerth y mae menywod yn rhoi ar eu hiechyd gael effaith uniongyrchol ar lwyddiant triniaeth feddygol ar gyfer problemau llawr y pelfis.
-
20 Rhagfyr 2019Prifysgol Abertawe yn dathlu graddedigion gradd-brentisiaethau cyntaf Cymru
Yr wythnos hon, mae Prifysgol Abertawe yn dathlu llwyddiant graddedigion gradd-brentisiaethau cyntaf Cymru.
-
20 Rhagfyr 2019Myfyrwyr yn plannu 800 o goed newydd ar Fynydd Cilfái
Mae myfyrwyr wedi plannu bron 800 o goed newydd ar Fynydd Cilfái yn Abertawe, gyda chymorth gan breswylwyr lleol, sgowtiaid a heddweision, mewn digwyddiad cymunedol a ariannwyd gan y Brifysgol.
-
18 Rhagfyr 2019Ymchwil yn datgelu y gall gweithredu cymunedol cadarnhaol helpu iechyd riffiau cwrel
Mae ymchwil newydd wedi datgelu y gall gweithredu cymunedol cadarnhaol roi hwb i niferoedd pysgod mewn riffiau cwrel a diogelu niferoedd pysgod yno yn y dyfodol.
-
18 Rhagfyr 2019Myfyriwr yn llwyddo i ennill gradd Meistr ar ôl goresgyn problemau iechyd a newidiodd ei fywyd
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe a frwydrodd yn ôl ar ôl colli ei olwg a chael trawsblaniad aren yn dathlu ar ôl graddio â gradd Meistr.
-
18 Rhagfyr 2019Prifysgol Abertawe yn penodi Cadeirydd corff llywodraethu newydd
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Bleddyn Phillips wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd y Cyngor.
-
18 Rhagfyr 2019Cyhoeddi pum beirniad gwadd ar gyfer pymtheng mlwyddiant Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
I ddathlu pymtheng mlwyddiant Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, mae ceidwaid y Wobr, Prifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi am y tro cyntaf y bydd pum beirniad gwadd yn ymuno â'r Cadeirydd yr Athro Dai Smith CBE a'r Athro Kurt Heinzelman i ddewis enillydd 2020 gwobr fwya'r byd i awduron ifanc.
-
17 Rhagfyr 2019Mam yn ennill brwydr dros ei theulu a gradd yn y gyfraith
Mae mam o Abertawe, a ysbrydolwyd i astudio'r gyfraith gan ei brwydr dros addysg ei mab awtistig, bellach wedi ymrwymo i helpu teuluoedd eraill ar ôl iddi raddio o Brifysgol Abertawe.
-
16 Rhagfyr 2019Astudiaeth yn datgelu ffyrdd i helpu atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc Cymru
Mae lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, atal camddefnyddio alcohol a sylweddau, a gwella cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn rhai ffyrdd allweddol o helpu i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc Cymru.
-
16 Rhagfyr 2019Bywyd newydd graddedig nyrsio ar ôl ennill brwydr â chyffuriau
Mae cyn-ddibynnwr cyffuriau a newidiodd ei bywyd wedi graddio o Brifysgol Abertawe ac wedi dod yn nyrs er mwyn helpu eraill.
-
12 Rhagfyr 2019Pam mae'r Brifysgol mor arbennig i bâr ar ôl mwy na 60 mlynedd
Mae pâr a ddisgynnodd mewn cariad ym Mhrifysgol Abertawe ar ddechrau'r 1950au yn dweud y bydd gan y sefydliad bob amser le arbennig yn eu calonnau.
-
12 Rhagfyr 2019Mae dysgu yn yr awyr agored yn dda i ddisgyblion ac i athrawon
Mae dysgu yn yr awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar blant a staff mewn ysgol gynradd yn Abertawe, gan roi hwb i les plant a'u hagweddau at ddysgu.
-
12 Rhagfyr 2019Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i agor siop dim gwastraff
Prifysgol Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i agor siop dim gwastraff.
-
11 Rhagfyr 2019Varsity Cymru 2020 yn dychwelyd i Abertawe
Bydd y Varsity Cymru yn dychwelyd i Abertawe y flwyddyn nesaf, gyda’r gêm rygbi fawr yn cael ei chwarae ddydd Mercher 29 Ebrill.
-
10 Rhagfyr 2019Arddangosfa gelf yn rhannu straeon o Bangladesh wledig
Bydd arddangosfa o waith artistiaid blaenllaw Bangladeshaidd, sy'n tynnu ar brofiadau o dlodi gwledig yn y wlad, yn agor ym Mhrifysgol Abertawe ar 19 Rhagfyr.
-
6 Rhagfyr 2019Prifysgol Abertawe yn cydweithio â’r cyngor ar brosiect coetiroedd
Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i adnewyddu coedlan hynafol yng Nghlwb Cymdeithasol Glandŵr a gosod gwrychoedd yn Stadiwm Liberty mewn ymgais i adfywio safle Gweithfeydd Copr Hafod-Morfa ar y cyd â Chyngor Abertawe.
-
5 Rhagfyr 2019Prif Gonswl Iwerddon yn canmol partneriaeth gwyddorau bywyd
Mae Prif Gonswl Iwerddon i Gymru wedi ymweld ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar gyfer briffiad arbennig ar y Rhwydwaith Arloesedd Gwyddor Bywyd Uwch Celtaidd (CALIN).
-
4 Rhagfyr 2019Yn ôl astudiaeth sy'n dangos allyriadau methan llynnoedd, dylid ailystyried newid yn yr hinsawdd
Cafwyd dealltwriaeth newydd ar sut y caiff y nwy tŷ gwydr, methan, ei gynhyrchu yn nyfroedd wyneb llynnoedd gan astudiaeth newydd o Brifysgol Abertawe, a ddylai ein hannog i ystyried y cylch methan byd-eang.
-
3 Rhagfyr 2019Llyfr newydd yn trafod pam mae gofid a thrawma bwydo ar y fron yn bwysig
Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio beth a olyga bwydo ar y fron i fenywod, sut maen nhw'n teimlo pan nad yw pethau'n llwyddo ac yn bwysig, sut y gellir gwella gofal, cefnogaeth a chanlyniadau ar gyfer cenedlaethau o fenywod y dyfodol.
-
2 Rhagfyr 2019Proffil: Prifysgol Abertawe yn CERN
CERN, sef Sefydliad Ewrop ar gyfer Ymchwil Niwclear, yw un o’r canolfannau mwyaf a mwyaf eu parch yn y byd ar gyfer ymchwil wyddonol.Mae hanes CERN, sy’n gartref i’r Gwrthdrawydd Hadronau Mawr (LHC), a leolir 100 metr o dan y ddaear ac sy’n cynnwys cylch o fagnetau uwchddargludol 27 cilometr o hyd, yn dyddio’n ôl i’r 1940s a dyma fan cychwyn y We Fyd-eang.
-
28 Tachwedd 2019Gefeilliaid sy’n dyheu am fod yn feddygon yn ailymuno ym Mhrifysgol Abertawe
Mae’r gefeilliaid unfath, Will ac Alex Carroll-Adams, wedi ailymuno ym Mhrifysgol Abertawe wrth iddynt ddilyn eu huchelgais i fod yn feddygon.
-
28 Tachwedd 2019Y Brifysgol a Fforwm Coed Abertawe'n plannu coed fel rhan o Wythnos Genedlaethol Coed
Mae Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) Prifysgol Abertawe a Fforwm Coed Abertawe wedi plannu nifer o goed y tu allan i Neuadd y Dref fel rhan o'u hymrwymiad i wrthbwyso teithiau gwaith staff drwy blannu coed.
-
26 Tachwedd 2019Partneriaeth gydweithio Prifysgol Abertawe'n hyrwyddo addysg wyddoniaeth yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe'n cydweithio ag OXIS Energy UK Ltd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu anodau metel lithiwm datblygedig i wella cylch bywyd batris lithiwm-sylffwr neu Li-S, sef batris y mae modd eu hailwefru sy'n enwog am eu hynni uchel yn benodol.
-
22 Tachwedd 2019Ymchwil yn dangos sut y gellir defnyddio hen bapurau newydd i dyfu nanodiwbiau carbon
Mae cydweithrediad ymchwil rhwng Prifysgol Rice a'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe wedi canfod bod modd defnyddio hen bapurau newydd fel deunydd eco-gyfeillgar, rhad y gellir tyfu nanodiwbiau carbon wal unigol arno ar raddfa fawr.
-
19 Tachwedd 2019Academyddion yn galw am ofal iechyd wedi'i dargedu ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd ag iselder
Mae academyddion Prifysgol Abertawe yn galw am ofal iechyd gwell wedi'i dargedu ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd sy'n profi iselder, yn dilyn astudiaeth newydd sy'n edrych ar effaith iselder ysbryd a gwrthiselyddion.
-
15 Tachwedd 2019Hillary Clinton yn galw ar gymdeithas i fod yn ddewr yn wyneb anghydraddoldeb
Mae Hillary Rodham Clinton wedi talu teyrnged i'r menywod a'i hysbrydolodd drwy gydol ei gyrfa mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe.
-
14 Tachwedd 2019Hillary Clinton yn cwrdd â charfan gyntaf y rhaglen Ysgoloriaethau Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe
Arweiniodd Hillary Rodham Clinton seminar gyda derbynwyr cyntaf Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe yn gynharach heddiw (dydd Iau, 14 Tachwedd).
-
14 Tachwedd 2019Patent gan yr Unol Daleithiau'n sicrhau therapi datblygedig newydd ar gyfer canser endometriaidd
Rhoddwyd patent gan yr Unol Daleithiau i wyddonwyr o Brifysgol Abertawe ar gyfer therapi arloesol newydd yn sgil eu gwaith caled i frwydro yn erbyn canser endometriaidd.
-
13 Tachwedd 2019Technocamps yn Cynnig Hanfodion y Cwricwlwm i Addysgwyr o Bob Cwr o Gymru
Gwnaeth Technocamps cynnal diwrnod ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ledled Cymru gyda’r nod o ysbrydoli ac ysgogi pawb sy’n gweithio yn y sector.
-
13 Tachwedd 2019Cenhedlaeth Extinction Rebellion a phrifysgolion
Yn ôl Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle wrth annerch cynulleidfa ryngwladol ym Maleisia, myfyrwyr heddiw yw cenhedlaeth Extinction Rebellion – dinasyddion byd-eang sydd â mwy o ddiddordeb mewn cyfrannu na dinistrio.
-
8 Tachwedd 2019Prifysgol Abertawe'n sicrhau £2.5 miliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect heneiddio creadigol
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill £2.5 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i greu Hyb Ymchwil newydd ar gyfer cynyddu'r farchnad fyd-eang ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau sy'n ymwneud ag oedran.
-
7 Tachwedd 2019Mae llyfr newydd yn helpu rhieni am sut mae adnabod newyddion ffug am feichiogrwydd, genedigaeth a babanod.
Mae'r academydd o Abertawe, yr awdur poblogaidd a'r ymchwilydd blaenllaw ar fwydo babanod, yr Athro Amy Brown yn helpu rhieni’r dyfodol ar sut mae adnabod newyddion ffug ar feichiogrwydd, genedigaeth a babanod yn ei llyfr newydd Informed is Best.
-
7 Tachwedd 2019Clefyd crancod yn fygythiad i stociau o bysgod cregyn
Mae crancod y glannau'n cario arfilod sy'n fygythiad mawr i stociau pysgod cregyn. Mewn astudiaeth newydd, mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe wedi defnyddio sawl dull darganfod gwahanol, gan gynnwys tynnu DNA o ddŵr môr, i greu'r darlun cynhwysfawr cyntaf o'r broblem.
-
4 Tachwedd 2019Prosiect yn y Brifysgol yn helpu disgyblion ysgol gynradd i roi'r argyfwng hinsawdd ar yr agenda
Unodd plant ysgol gynradd ar draws Cymru i ddysgu rhagor am newid yn yr hinsawdd a beth sy'n cael ei wneud i'w oresgyn.
-
1 Tachwedd 2019Ymchwilydd yn ymuno â thîm yr Ysgol Feddygaeth ar ôl ennill Cymrodoriaeth Ewropeaidd
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi croesawu ymchwilydd newydd fel rhan o gynllun Ewropeaidd blaenllaw.
-
31 Hydref 2019Gwastraff plastig - Abertawe a Zambia yn ymuno â’i gilydd
Mae athrawon a disgyblion mewn 14 ysgol yn Abertawe a Zambia wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â gwastraff plastig, diolch i bartneriaeth a sefydlwyd gan Discovery, elusen wirfoddoli i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.
-
3 Mawrth 2021£800,000 i rannu manteision technoleg solar
Mae prosiect a arweinir gan Abertawe, a fydd yn helpu cymunedau mewn gwledydd datblygol i generadu eu pŵer solar eu hunain, wedi ennill dyfarniad o £800,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
-
30 Hydref 2019Buddsoddiad gwerth £5.6 miliwn mewn arloesedd cyfreithiol ar gyfer Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £5.6 miliwn ym meysydd TechGyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder, ynghyd ag atal gwrthderfysgaeth a defnydd troseddwyr o’r rhyngrwyd.
-
29 Hydref 2019Dr Bridget Kerr yn casglu gwobr gan Gydffederasiwn Profiannaeth Ewrop
Mae Dr Bridget Kerr o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Ymchwil Cydffederasiwn Profiannaeth Ewrop (CEP) 2019 am ei hymchwil PhD i systemau gwerthuso gwasanaethau prawf.
-
29 Hydref 2019Astudiaeth newydd yn datgelu bod merched yn fwy tebygol o fynd i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio
Mae merched yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o fynd i'r ysbyty ar ôl hunan-niweidio na bechgyn, yn ôl ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe.
-
25 Hydref 2019Athro'n annerch cynhadledd ryngwladol ar uniondeb academaidd
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi rhannu'i arbenigedd a'i brofiad o foeseg ac uniondeb academaidd â chynulleidfa ryngwladol mewn cynhadledd yn yr Undeb Ewropeaidd.
-
24 Hydref 2019Prifysgol Abertawe'n ymuno â chonsortiwm i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil a diwydiant ym maes y biowyddorau
Bydd Prifysgol Abertawe'n ymuno â Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio fel partner cysylltiol, yn dilyn £18.5m gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC).
-
24 Hydref 2019Record Cyflymder ar Dir Bloodhound wedi'i gyhoeddi ym 'manyleb anialwch' cyn y treialon cyflymder uchel
Mae tîm Record Cyflymder ar Dir Bloodhound (LSR) wedi datgelu'r car sy'n ceisio hawlio record cyflymder ar dir newydd y byd y flwyddyn nesaf, a welwyd am y tro cyntaf gyda manyleb anialwch cyflawn wrth iddo ddechrau ei raglen profi cyflymder uchel yn anialwch Hakskeenpan, Penrhyn Gogleddol, De Affrica.
-
23 Hydref 2019Astudiaeth newydd yn datgelu bod crancod yn gallu datrys drysfa a chofio sut i'w llywio
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut y gall crancod gwyrdd lywio eu ffordd drwy ddrysfa gymhleth a hyd yn oed gofio'r llwybr er mwyn iddynt ddod o hyd i fwyd.
-
22 Hydref 2019Prifysgol yn tynnu sylw at faterion byd-eang yn y gynhadledd biofoeseg gyntaf
Ymgasglodd academyddion, myfyrwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i fynd i’r afael â rhai o faterion moesegol mwyaf dybryd heddiw mewn cynhadledd arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.
-
18 Hydref 2019Disgyblion ysgol gynradd yn rhannu ymchwil ag ACau blaenllaw
Mae disgyblion o ddwy ysgol gynradd yng Nghymru wedi rhannu pryderon ynghylch gwastraff plastig a bwyta'n iach gydag ACau mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan Academi Morgan Prifysgol Abertawe.
-
17 Hydref 2019Gŵyl Wyddoniaeth fwyaf Cymru'n dychwelyd i Abertawe
Bydd Prifysgol Abertawe unwaith eto'n arddangos ei hymchwil sy'n ysbrydoli i bobl Abertawe yn hwyrach y mis hwn pan fydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar gyfer trydedd flwyddyn.
-
15 Hydref 2019Dramodydd ac Artist Arobryn yw Cymrodorion Creadigrwydd Cyntaf
Mae'n bleser mawr gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe gyhoeddi mai Kaite O’Reilly a Peter Matthews yw'r ddau artist a ddewiswyd yn Gymrodorion Creadigrwydd cyntaf y Brifysgol.
-
14 Hydref 2019Myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o nanodechnoleg yn y Brifysgol
Mae disgyblion wedi cael cyfle unigryw i gael rhagor o wybodaeth am nanodechnoleg mewn gweithdy arbennig ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y gweithdy oedd ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.
-
10 Hydref 2019Anrhydeddu'r Brifysgol am ei hymroddiad i gydraddoldeb
Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu ar ôl cael ei gwobrwyo am ei hymrwymiad parhaus i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
-
4 Hydref 2019Y Brifysgol i gynnal Taith Gerdded Elusennol ar y traeth
Bydd Gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe'n cynnal taith gerdded tair milltir ar y traeth i godi arian ac i gynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.
-
2 Hydref 2019Y Brifysgol yn ennill Marc Cydnabyddiaeth Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei Marc Cydnabyddiaeth Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd am ei hymrwymiad parhaus i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a staff o'r haint a allai fod yn angheuol.
-
1 Hydref 2019Diwrnod hwyl i’r teulu’n ganolbwynt i Ŵyl Being Human 2019
Bydd diwrnod hwyl i'r teulu am ddim sy'n ymwneud â llong ryfel Harri'r VIII, y Mary Rose, yn arwain Gŵyl Being Human eleni, a chroesewir ymwelwyr i ddringo ar fwrdd y llong am anturiaethau rhyfeddol ar y moroedd mawr.
-
1 Hydref 2019Canolfan £4.6m newydd i hybu mynediad at ddata hollbwysig a fydd yn helpu i drawsnewid iechyd anadlol yn y Deyrnas Unedig
Mae Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe yn chwarae rôl allweddol mewn consortiwm £4.6m sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig ar wella bywydau miliynau o bobl sydd â salwch anadlol.
-
30 Medi 2019Lansio prosiect ynni morol newydd rhwng Iwerddon a Chymru yng Nghynhadledd Ocean Energy Europe
Lansiwyd heddiw brosiect trawsffiniol newydd gwerth €4.2m sy’n anelu at roi hwb i’r diwydiant ynni morol yng Nghymru ac Iwerddon gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru.
-
30 Medi 2019Buddsoddiad £10m ar gyfer ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc
Bydd canolfan ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yn cael ei sefydlu gyda £10m gan Sefydliad Wolfson, un o elusennau mwyaf blaenllaw'r DU.
-
26 Medi 2019Cyfleoedd uwch dechnoleg i ysbrydoli disgyblion
Efallai bod y gwyliau drosodd, ond diolch i Technocamps, bydd disgyblion ysgol yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael profiadau newydd yn eu tymor nesaf.
-
26 Medi 2019Darganfod croesryw clymog Japan prin yn ne Cymru
Mae tîm o wyddonwyr Prifysgol Abertawe wedi darganfod croesryw clymog Japan prin yn ne Cymru.
-
26 Medi 2019Yr awdur o fri, Max Porter, yn trafod nofel newydd mewn digwyddiad yn y Brifysgol
Bydd Max Porter - enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2016 am ei nofel gyntaf o fri ryngwladol, Grief is the Thing with Feathers - yn ymuno â Dr Francesca Rhydderch ym Mhrifysgol Abertawe i drafod a darllen o'i ail nofel - y mae disgwyl mawr amdano'n fyd-eang ac sydd wedi cyrraedd rhestr hir gwobr Booker - Lanny.
-
25 Medi 2019Y Brifysgol yn ymuno â fferyllfa gadwyn cyn dechrau cwrs newydd
Bydd myfyrwyr ar gwrs fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe yn gallu gweld datblygiadau uwch dechnoleg mewn gofal fferyllol yn y gymuned o lygad y ffynnon yn sgil partneriaeth newydd.
-
24 Medi 2019Caredigrwydd yn flaenoriaeth ar gyfer partner hirdymor yn ôl astudiaeth ryngwladol newydd
Un o'r prif nodweddion rydym yn chwilio amdano mewn partner hirdymor yw caredigrwydd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
-
20 Medi 2019Prifysgol Abertawe ar y brig o hyd yng Nghymru yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2020
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw'r safle uchaf ymhlith prifysgolion Cymru yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2020.
-
20 Medi 2019Arweinwyr y Dyfodol: arbenigwr llosgfynyddoedd a mathemategydd yn ennill cymrodoriaethau i gynnal ymchwil yn Abertawe
Mae dau ymchwilydd, mathemategydd ac arbenigwr llosgfynyddoedd, wedi ennill cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, a fydd yn dod â nhw i Brifysgol Abertawe i gynyddu eu hymchwil.
-
19 Medi 2019Astudiaeth o refferendwm Brexit yn cael mai dryllio pleidleiswyr arweiniodd at fuddugoliaeth yr ymgyrch i adael
Mae astudiaeth ryngddisgyblaethol newydd gan fathemategwyr ac academyddion economeg ym Mhrifysgol Abertawe o refferendwm Brexit yn 2016 wedi dangos bod cefnogaeth yr ymgyrch dros adael wedi dod o ddemograffeg llawer mwy tebyg na'r ymgyrch dros aros, a allai fod â goblygiadau i'r ymgyrchwyr dros adael wrth ennill pleidleisiau i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
-
19 Medi 2019Diwydiant ceir gwyrddach - dyfarniad am waith ymchwilydd i leihau'r ynni a ddefnyddir i weithgynhyrchu ceir
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe sy'n datblygu technegau mwy ystyriol o'r amgylchedd i weithgynhyrchu ceir wedi ennill dyfarniad gwerth £1,000 gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru a fydd yn caniatáu iddo rannu ei waith ag arbenigwyr eraill.
-
19 Medi 2019Y Brifysgol yn ymuno â choleg i helpu myfyrwyr awtistig
Mae Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe wedi dod ynghyd i gefnogi myfyrwyr awtistig wrth iddynt baratoi i bontio o’r coleg i’r brifysgol.
-
18 Medi 2019Gweld bywyd dyfrol yn glir drwy lens dŵr croyw
Mae myfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod ffordd o weld bywyd planhigion ac anifeiliaid mewn dyfroedd llwyd – gan ddefnyddio lens dŵr croyw.
-
16 Medi 2019Prifysgol yn dathlu llwyddiant graddedigion Prentisiaeth Gradd Cyntaf Cymru
Ymgasglodd myfyrwyr a staff o Raglen Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol Prifysgol Abertawe gyda busnesau a sefydliadau lleol yn ddiweddar i ddathlu llwyddiant y dysgwyr cyntaf i gwblhau'r cwrs tair blynedd.
-
13 Medi 2019Partneriaeth prifysgol yn darparu amgylchedd hyfforddi unigryw i fyfyrwyr iechyd
Mae myfyrwyr iechyd ym Mhrifysgol Abertawe bellach yn gallu dysgu sgiliau hanfodol mewn cyfleuster hyfforddi newydd unigryw ynghanol ysbyty prysur.
-
13 Medi 2019Cyflawni Bargeinion Dinesig yng Nghymru
Ai bargeinion dinesig yw'r ffordd ymlaen i'r rhanbarthau hynny sydd wedi dioddef diffyg buddsoddi gan y sector preifat? Dyna'r cwestiwn a ofynnir mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe i academyddion, gwleidyddion, a'r bobl y bydd y pedair partneriaeth ranbarthol sy'n cael eu datblygu ar draws Cymru yn effeithio arnynt fwyaf.
-
11 Medi 2019Academyddion yn galw am fonitro cyffuriau strwythuredig mewn cartrefi gofal
Mae academyddion Prifysgol Abertawe yn galw ar wneuthurwyr polisi, rheolyddion a phobl broffesiynol gofal iechyd i fabwysiadu cyfundrefn fonitro meddyginiaethau strwythuredig ar ôl i ymchwil ddangos effaith bositif ar ofal pobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal ac yn cymryd moddion iechyd meddwl.
-
11 Medi 2019Cymru i hau’r hadau cyntaf yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd
Bydd prosiect peilot newydd yng Nghymru i adfer cynefin morol pwysig yn arwain y ffordd i filiwn o hadau gael eu hau yn y cynllun mwyaf i adfer morwellt yn y Deyrnas Unedig erioed.
-
10 Medi 2019Astudiaeth newydd yn datgelu bod mesur nanodiwbiau carbon yn bosib am y tro cyntaf
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi adrodd am ymagwedd newydd at fesur dargludedd rhwng nanodiwbiau carbon yr un fath y gellid ei ddefnyddio i helpu i wella effeithiolrwydd ceblau pŵer trydanol yn y dyfodol.
-
9 Medi 2019Y brifysgol yn dathlu perthnasau agosach â phartneriaid o Decsas
Mae Prifysgol Abertawe wedi cryfhau ei chysylltiadau hirhoedlog â Thecsas gydag ymweliad proffil uchel i'r dalaith gan yr Is-ganghellor, Paul Boyle.
-
4 Medi 2019Athro yn ennill gwobr ryngwladol am drefniadau cydweithio byd-eang parhaus
Mae gwyddonydd blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei enwi’n enillydd cyntaf anrhydedd ryngwladol nodedig.
-
3 Medi 2019WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil
Mae cydweithrediad ymchwil arloesol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi ennill hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd.
-
2 Medi 2019Myfyrwyr yn elwa ar eu cynlluniau busnes disglair
Mae myfyrwyr entrepreneuraidd o Brifysgol Abertawe'n dathlu ar ôl iddynt ennill arian i'w helpu i ddatblygu eu syniadau busnes unigryw.
-
2 Medi 2019Ysgol Feddygaeth yn penodi pennaeth Meddygaeth i Raddedigion newydd
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi penodi pennaeth Meddygaeth i Raddedigion newydd.
-
2 Medi 2019Ffyrdd mwy diogel – gallai ymchwil arwain at dystiolaeth well gan dystion mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd
Sicrhau tystiolaeth well gan dystion mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, sy’n rhan hanfodol o erlyn gyrwyr peryglus, yw nod astudiaeth ymchwil a gynhelir ar hyn o bryd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Heddlu De Cymru.
-
1 Awst 2019Gwireddu breuddwyd graddedigion am fusnes gwyrdd
Mae tri o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, a ddaeth ynghyd dros eu hangerdd am y blaned, wedi datblygu syniad gwych newydd am fusnes gwyrdd eu hunain.
-
5 Awst 2019Anrhydedd genedlaethol i wobrwyo athro yn y gyfraith am ei ymroddiad
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i gydnabod am ei ymroddiad i addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr.
-
7 Awst 2019Disgyblion ysgol yn cael profiad o Brifysgol Abertawe mewn diwrnod o weithgaredd
Er nad ydyn nhw eto wedi cwblhau eu harholiadau TGAU, mwynhaodd grŵp o ddisgyblion o Abertawe gael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
-
21 Awst 2019£1.3m o gyllid i ddiwydiant lled-ddargludyddion de Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £1.3 miliwn i ddatblygu technolegau proses ar gyfer llu o gymwysiadau o geir awtonomaidd, i ddyfeisiau newydd ar gyfer ynni glân, symudedd yn y dyfodol, deallusrwydd artiffisial, biosynwyryddion a synwyryddion y gellir eu gwisgo a phecynnu uwch.
-
21 Awst 2019Bydd hafau mwy cynnes ym Mhrydain yn golygu mwy o law
Astudiaeth o wybodaeth am yr hinsawdd dros ddeuddeg ganrif yn datgelu y dylai Ewrop baratoi ar gyfer hafau mwy gwlyb yn ogystal â sychach wrth i'r hinsawdd gynhesu.
-
22 Awst 2019Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr gyntaf yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio rhyngwladol
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe a Bionema Ltd, cwmni ym Mhrifysgol Abertawe, yr Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr gyntaf ym mis Gorffennaf eleni, gyda'r nod o roi llwyfan rhyngwladol i gydweithio a phartneriaethau.
-
23 Awst 2019Arbenigwyr diabetes yn rhannu ymchwil arloesol ynglŷn â thîm beicio elît
Mewn cynhadledd ryngwladol, mae arbenigwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Abertawe wedi rhannu eu hymchwil flaenllaw i sut mae beicwyr elît yn ymgodymu â diabetes.
-
23 Awst 2019Ysgoloriaeth newydd i goffau cyfraniad arbennig Hywel Teifi Edwards i ddiwylliant Cymru
Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe wedi lansio apêl er mwyn sefydlu ysgoloriaeth newydd er cof am Hywel Teifi Edwards yn yr Eisteddfod yn Llanrwst.
-
23 Awst 2019Cyffro bragdy newydd! Archebion di-ri ar gyfer cwrw di-alcohol gan gyn-fyfyriwr
Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ysgwyd y diwydiant diodydd gyda'i busnes cwrw crefft di-alcohol.
-
27 Awst 2019Myfyrwyr yn lansio ap gostyngiadau i helpu i adfywio'r stryd fawr
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi lansio ap a fydd yn caniatáu i bobl gael gostyngiadau arbennig yn Abertawe ac, yn ei dro, helpu elusennau a busnesau annibynnol lleol.
-
27 Awst 2019Prifysgol Abertawe'n dathlu ei chanlyniadau BUCS gorau erioed
Gyda blwyddyn academaidd newydd yn prysur agosáu, mae Prifysgol Abertawe a'i thimau chwaraeon wedi dathlu eu canlyniadau gorau erioed yn nhymor Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
-
30 Awst 2019Myfyrwyr yn agor siop dillad retro a hen ddillad yng nghanol y ddinas
Mae dau fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn bodloni'r galw cynyddol am ddillad retro a dillad ail-law drwy agor siop hen ddillad yn Abertawe.
-
30 Awst 2019Gweddillion llystyfiant rhuddedig yn helpu i leihau'r allyriadau carbon cyffredinol o danau gwyllt yn ôl astudiaeth newydd
Mae'r achosion eang a digynsail o danau gwyllt yn yr Arctig a'r symiau helaeth o CO2 y maent yn eu rhyddhau wedi bod yn cael cryn sylw yn y wasg ledled y byd.