-
17 Chwefror 2025Oriel Science yn dathlu statws elusen newydd
Yn dilyn ei lwyddiant fel prosiect ym Mhrifysgol Abertawe, mae Oriel Science yn mynd i mewn i gyfnod newydd cyffrous fel elusen annibynnol, gan ddatgloi cyfleoedd ffres ar gyfer twf ac arloesi.
-
12 Chwefror 2025Mewnwelediad newydd i hawl plant ifanc i gael eu clywed ym mholisi addysg Cymru
Mae tîm ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi archwilio fframwaith y polisi ynghylch hawliau cyfranogol plant mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, gan gyhoeddi eu canfyddiadau mewn brîff polisi newydd.
-
12 Chwefror 2025Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation mewn cytundeb ariannu ar y cyd gwerth £3m ar gyfer ymchwil cardiofasgwlaidd
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation (BHF) wedi cyhoeddi cytundeb sylweddol, gwerth £3m, i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru drwy gyllid ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN).
-
11 Chwefror 2025Prosiect theatr arloesol yn dod â llawenydd i bobl sy'n byw gyda dementia
Mae prosiect theatr arloesol, a grëwyd gyda chymorth Prifysgol Abertawe, wedi dod â llawenydd, chwerthin a chysylltiadau cymdeithasol ystyrlon i gartrefi gofal yn ne Cymru.
-
10 Chwefror 2025Deon newydd yn dychwelyd i'w gwreiddiau ar gyfer rôl uwch-arweinyddiaeth
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol newydd i'w huwch-dîm arweinyddiaeth, sy'n gyfrifol am Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol.
-
5 Chwefror 2025Deutsch lernen! 500 o ddisgyblion lleol yn dod i sioe deithiol i glywed am yrfaoedd ar gyfer siaradwyr Almaeneg
Fel economi fwyaf Ewrop, mae'r Almaen yn gartref i gwmnïau sylweddol o Adidas i Lidl, Haribo i Hugo Boss, Bosch i Birkenstock, a Volkswagen i BMW, sy'n cynnig byd o gyfleoedd gyrfa i siaradwyr Almaeneg - dyma'r neges a roddwyd i ddisgyblion ysgolion lleol a ddaeth i sioe deithiol Almaeneg ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe.
-
3 Chwefror 2025Asffalt hunan-adfer wedi'i bweru gan AI: Cam tuag at ffyrdd sero net cynaliadwy
Gall ffyrdd asffalt hunan-adfer, a wnaed o wastraff biomas ac a ddyluniwyd gyda chymorth deallusrwydd artiffisial (AI), gynnig ateb addawol i broblem tyllau ffyrdd y DU, sy’n costio oddeutu £143.5 miliwn o bunnoedd y flwyddyn.
-
30 Ionawr 2025Arbenigwyr o'r Brifysgol yn helpu i lunio polisi Undeb Rygbi Cymru ar ddiogelu
Mae gwyddonwyr chwaraeon o Brifysgol Abertawe wedi bod yn helpu Undeb Rygbi Cymru (WRU) i ddatblygu ei bolisi diogelu newydd, a fydd yn cefnogi'r gêm ar lefelau cymunedol a phroffesiynol ledled Cymru.
-
30 Ionawr 2025Banc Data SAIL yn derbyn £4.55m o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Bydd Banc Data SAIL ym maes Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn derbyn £4,551,338 o gyllid cynaliadwyedd mewn cyhoeddiad cyllid mawr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
-
29 Ionawr 2025Penodwyd arbenigwr o Abertawe i gynghori llywodraeth y DU ar niwed o gamddefnyddio cyffuriau
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe ar gamddefnyddio sylweddau a chanfod cyffuriau wedi cael ei phenodi i'r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau, sy'n gwneud argymhellion i lywodraeth y DU ar reoli cyffuriau sy'n beryglus neu'n niweidiol fel arall.
-
29 Ionawr 2025Caerdydd i gynnal Varsity Cymru 2025
Bydd digwyddiad hynod boblogaidd Varsity Cymru yn dychwelyd i brifddinas Cymru unwaith eto ddydd Mercher y 9 Ebrill 2025, gan ddod â’r gornest Prifysgol fwyaf yn ôl i Gaerdydd.
-
28 Ionawr 2025'Peiriant amser' newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael profiad unigryw o Gastell Margam
Mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth lansio ap realiti estynedig (AR) arloesol sy'n dod â hanes cyfoethog Castell Margam yn fyw.
-
23 Ionawr 2025Syniadau busnes newydd sy'n lleihau gwastraff a charbon - tîm y Brifysgol yn sicrhau canlyniadau i gwmnïau
Mae tîm o Brifysgol Abertawe sy’n rhoi cymorth i gwmnïau yn Ne Cymru i lansio syniadau busnes gwyrdd - megis ailddefnyddio gwastraff plastig ar draethau er mwyn gwneud cynnyrch newydd - wedi datgelu eu bod wedi helpu 22 o gwmnïau gwahanol, gan roi cymorth i lansio 7 o gynhyrchion neu wasanaethau newydd a gwell.
-
23 Ionawr 2025Datgelu rhestr hir ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2025
Mae'r rhestr hir ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu heddiw, gan gynnwys awduron o bob cwr o'r byd gan gynnwys y DU, Palesteina, India, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.
-
22 Ionawr 2025Astudiaeth yn dangos bod gofal llygaid mewn clinigau lleol yn lleihau amserau aros i gleifion ac yn optimeiddio adnoddau'r GIG
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod rheoli cyflyrau llygad drwy ddarparu gwasanaethau optometrig estynedig gan optometryddion lleol, yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau llygad ysbytai yn unig, yn gallu cwtogi amserau aros i gleifion a lleihau costau i'r GIG.
-
22 Ionawr 2025Astudiaeth newydd yn datgelu strategaeth effeithiol i wrthdroi hysbysebu am gamblo
Mae astudiaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe wedi dangos bod dangos fideo i bobl o wrthdroi hysbysebu'n cynyddu eu gwrthwynebiad i hysbysebion gamblo.
-
21 Ionawr 2025Ymchwilydd Prifysgol Abertawe'n darlledu ffilm ar gyfer Mis Hanes LHDTC+
Cynhelir darllediad ffilm arbennig o'r ddrama glodfawr gan Natalie McGrath, The Beat of Our Hearts, yn Amgueddfa Caerdydd am 11am ddydd Sadwrn 8 Chwefror, gan nodi Mis Hanes LDHTC+.
-
31 Ionawr 202570 mlynedd o ddaearyddiaeth yn Abertawe - arbenigwr byd-eang ar danau gwyllt yn traddodi darlith gyhoeddus i nodi carreg filltir
Mae arbenigwr byd-eang ar danau gwyllt, Yr Athro Stefan Doerr, wedi traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe am ei waith, gan nodi 70 mlynedd o adran ddaearyddiaeth y Brifysgol.
-
15 Ionawr 2025Academyddion o Brifysgol Abertawe wedi'u Penodi i Baneli Peilot Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029
Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe wedi'u penodi i baneli peilot Pobl, Diwylliant a'r Amgylchedd (PCE) Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029.
-
13 Ionawr 2025Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn datgelu panel beirniadu 2025
Caiff y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc, ei ddatgelu heddiw, cyn cyhoeddi'r rhestr hir ddydd Iau 23 Ionawr.
-
10 Ionawr 2025Newidiadau dramatig Cwm Kama, Mynydd Everest, dros y ganrif ddiwethaf
Wrth ddilyn yr un llwybr â'r teithiau enwog a wnaeth ragchwilio’r llwybr gogleddol i Fynydd Everest dros 100 mlynedd yn ôl, mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddogfennu'r newidiadau amgylcheddol a diwylliannol dramatig yn y rhanbarth.
-
7 Ionawr 2025Prifysgol Abertawe yn arwain prosiect gwerth £3m i chwyldroi ynni solar yn Affrica
Dyfarnwyd £3m i brosiect newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe i ddatblygu a chynhyrchu modiwlau solar perofsgit cynaliadwy (PSM) yn Affrica, gan rymuso cymunedau lleol a hyrwyddo ynni cynaliadwy.
-
6 Ionawr 2025Cydweithrediad trawsiwerydd sydd â'r nod o wella diogelwch yn yr haul yn ein hysgolion cynradd
Gallai disgyblion ysgol yng Nghymru a Chanada elwa o well diogelwch yn erbyn yr haul yn y dyfodol, diolch i bartneriaeth drawsiwerydd newydd.