Mae Prifysgol Abertawe’n hollol ymrwymedig i gydraddoldeb LGBT+
Rydym yn ymdrechu i wella a mesur ein llwyddiannau ym maes cydraddoldeb LGBT+ er mwyn sicrhau bod staff a myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u derbyn yn y gwaith ac yn eu hastudiaethau.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewal sy’n rhoi i ni offeryn meincnodi diffiniol i fesur ein cynnydd o ran cynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn y gweithle.
Yn 2023, mae Prifysgol Abertawe wedi gwella ei safle o 26ain i 12fed, sef ein safle uchaf erioed yn nhabl cynghrair cyflogwyr y DU. Mae’n bleser o’r mwyaf gennym ni ein bod ni hefyd wedi cynyddu ein safle ymhlith cyflogwyr o’r sector addysg sy’n cymryd rhan yn y Mynegaio 5ed i 1ef. Rydym ni wedi cadw erbyn dyfarniad safon Aur, sy’n cydnabod ein bod ni wedi gwreiddio cydraddoldeb LHDT+ ym meysydd craidd ein gwaith ar y lefelau uchaf.