pobl

Rhwydwaith Gofalwyr

Mae'r grŵp Gofalwyr yn cwrdd bob mis gyda'r nod o ddarparu cymorth, cyngor ac adnoddau i ofalwyr sy'n gweithio megis ein Pasbort i Ofalwyr. Caiff y grŵp ei gadeirio gan Maria Cheshire-Allen. Ymunwch â'r Rhwydwaith Gofalwyr yma.

Rhwydwaith Staff Anabl

Mae'r rhwydwaith anabledd yn rhoi cymorth a chyfleoedd i rwydweithio ar gyfer cydweithwyr ag anableddau yn ogystal â rhoi mewnbwn gwerthfawr i ymarfer polisi a phenderfyniadau'r brifysgol. Arweinir y rhwydwaith gan Pamela Styles a Matt Garrad. Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr e-bostio i gael newyddion, digwyddiadau neu gyfleoedd ymgynghori perthnasol, e-bostiwch Rhwydwaith.

Rhwydwaith Staff LHDT+

Mae gan y Brifysgol Rwydwaith Staff LHDT+, sy'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, cyfleoedd rhwydweithio, gweithdai a hyfforddiant, yn ogystal â darparu gwybodaeth ac arweiniad ar faterion LHDT+. Grŵp preifat yw hwn sydd ar agor i staff LHDT+, heb ystyried a ydynt wedi dod allan yn y gweithle neu beidio.Caiff y rhwydwaith ei gadeirio gan Daf Turner a Freya Michaud. E-bostiwch y tîm LHDT+ os hoffech ymuno.

 Rhaglen Cynghreiriaid LHDT+

Mae Grŵp Cynghreiriaid LHDT+ ar agor i'r holl staff nad ydynt yn uniaethu fel LHDT+ ond sydd am gefnogi cydraddoldeb LHDT+. Nod y grŵp yw ymdrechu am gydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle. Fel cyfaill LHDT+, byddwch chi'n cyfrannu at ddiwylliant o gydraddoldeb effeithiol ac yn herio gwahaniaethu. Dave Bolton sy'n cadeirio'r rhaglen hon. Cysylltwch â'r tîm Cynghreiriaid LHDT+ os hoffech fod yn gyfaill.

Grŵp Mary Williams

Rhwydwaith o fenywod mewn uwch swyddi ar draws y Brifysgol yw Grŵp Mary Williams. Nod y grŵp yw rhannu a defnyddio gwybodaeth ac arfer da, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn eu meysydd a gweithredu fel modelau rôl. Hyrwyddo cyfleoedd datblygu a chynnydd yn rhagweithiol i fenywod yn eu maes e.e. mentora, gweithdai CV, arweiniad ar gyfer dyrchafiadau etc. Cadeiryddion Grŵp Mary Williams yw Jocelyn Finniear, Joanne Berry a Louise Huxtable-Thomas.​ I ymuno â grŵp Mary Williams, e-bostiwch marywilliamsgroup@abertawe.ac.uk

Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol

Mae gan y Brifysgol Grŵp Staff Niwroamrywiol sy'n croesawu aelodau newydd. Mae pobl niwroamrywiol yn cynnwys pobl sy'n awtistig, â dyslecsia, dyspracsia, dyscalwlia, ADHD etc. Os hoffech chi gysylltu â'r rhwydwaith neu gael eich ychwanegu at y rhestr e-bost, e-bostiwch Aimee: aimee.grant@swansea.ac.uk. Dim ond Aimee Grant a'i chynorthwy-ydd Mynediad at y Gwaith (Carol McIntyre) fydd yn gwybod pwy yw aelodau'r rhwydwaith, a byddant yn cadw cyfrinachedd i aelodau sy'n teimlo mae ei angen arnynt.

SIREN (Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Rhyngwladol Abertawe)

Mae'r Brifysgol yn cynnig cyfleoedd i gydweithwyr rannu profiadau drwy ein Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Rhyngwladol Abertawe (SIREN). Grŵp cynghorol, cefnogol a chymdeithasol yw SIREN, drwy ei gyd-gadeiryddion, yn gyswllt rhwng y Brifysgol a chydweithwyr sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.  Nod y grŵp yw gwella'r profiad i gydweithwyr o leiafrifoedd ethnig, hyrwyddo cydraddoldeb hiliol drwy ymgynghori a'u cynnwys ar faterion hil. Yn gyfle i rannu profiadau, arfer gorau a chael mannau diogel i rwydweithio, gan gyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr a chodi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb. Rhoi cymorth, arweiniad a chyfeirio, darparu fforwm i leisio barn i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a chynnig cyfle cymdeithasol i gydweithwyr. Lella Nouri ac Adesola Ademiloye sy'n cadeirio'r rhwydwaith ar y cyd. I ymuno â SIREN, e-bostiwch siren@abertawe.ac.uk

 

EFC Wales logo
logo: LGBT+ staff network
logo: LGBT+ Ally logo