Prifysgol Abertawe
Teitl y Swydd: Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu
Cyfeirnod y Swydd: 1219
Lleoliad: Abertawe, Cymru
Cyflog: Pecyn Cydnabyddiaeth Ariannol Cystadleuol ar gyfer rôl Uwch-arweinyddiaeth
Dyddiad cau: 5pm nos Wener, 23 Hydref 2026
 

Mae Prifysgol Abertawe'n sefydliad a arweinir gan ymchwil sy'n ffynnu ar archwilio a darganfod, yn cynnig cydbwysedd cymhellol o addysgu rhagorol, ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac ansawdd bywyd rhagorol ar ei dau gampws glan môr. Ar ôl dathlu ei chanmlwyddiant yn 2020, mae'r Brifysgol yn falch o'r rôl y mae wedi'i chwarae wrth drawsnewid Abertawe'n ddinas o ragoriaeth ers 1920. Heddiw, mae Abertawe'n addysgu mwy na 22,000 o fyfyrwyr o dros 100 o wledydd ac yn cefnogi cymuned academaidd a gwasanaethau proffesiynol fawr ac amrywiol. Ymysg y 300 o brifysgolion gorau yn y byd ac ar y brig yng Nghymru yn The Guardian University Guide 2026, mae Abertawe'n parhau i gryfhau ei henw da rhyngwladol wrth fuddsoddi mewn rhaglenni uchelgeisiol o ymchwil, arloesi, datblygiad campws a phartneriaethau strategol.

Rydym bellach am benodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu rhagorol i chwarae rôl ganolog wrth lunio cam nesaf datblygiad Prifysgol Abertawe. Dyma rôl arweinyddiaeth weithredol allweddol a chanddi gwmpas sefydliadol eang.  Yn atebol i'r Is-ganghellor ac yn gweithio fel aelod allweddol o'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, bydd gennych ddylanwad sylweddol ar strategaeth, llywodraethiant, perfformiad gweithredol ac effeithiolrwydd sefydliadol.

Byddwch yn rhoi arweinyddiaeth strategol i swyddogaethau gwasanaethau proffesiynol o bwys gan gynnwys y Gwasanaethau Addysg, Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol, y Gwasanaethau Pobl, Newid Strategol, Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth, Bywyd Myfyrwyr a Gweithrediadau Cyfadrannau. Byddwch yn arwain datblygiad parhaus gwasanaethau effeithiol, gwydn sy'n perfformio'n uchel a fydd yn cefnogi uchelgeisiau strategol y Brifysgol, profiad myfyrwyr a chynaliadwyedd hirdymor, gan wreiddio diwylliant o welliant parhaus, cydweithio a rhagoriaeth gwasanaeth ar draws y sefydliad.

Bydd gennych hefyd gyfrifoldeb helaeth am lywodraethiant, cydymffurfiaeth reoleiddiol ac atebolrwydd sefydliadol, gan gynnwys ymgysylltu â'r Cyngor a'i bwyllgorau, wrth sicrhau bod y Brifysgol mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i gyfleoedd, heriau a newid yn y sector yn y dyfodol.   Agwedd allweddol ar y rôl fydd gwreiddio diwylliant o gydweithio, rhagoriaeth gwasanaeth a gwelliant parhaus ar draws y sefydliad, gan wella effeithiolrwydd sefydliadol, cefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus a sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i fod yn ystwyth, yn wydn ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae hon yn rôl allweddol, a bydd gennych brofiad sylweddol o arweinyddiaeth ar lefel uwch a enillwyd mewn addysg uwch, yn y sector cyhoeddus ehangach neu amgylchedd soffistigedig tebyg.  Bydd gennych brofiad helaeth o arwain gwelliant sefydliadol, goruchwylio portffolios gweithredol amrywiol a chreu timau perfformiad uchel a diwylliannau cynhwysol. Bydd gennych y credadwyedd, barn a galluedd strategol i weithio'n effeithiol ar draws amgylchedd eang o randdeiliaid, ynghyd ag ymwybyddiaeth fasnachol gref. Byddwch hefyd yn arweinydd dynamig sy'n gallu addasu, yn hapus i weithio ar gyflymder mewn amgylchedd cymhleth sy'n symud yn gyflym.

Dyma gyfle gwych i ymuno â Phrifysgol uchelgeisiol sydd wedi'i chysylltu'n fyd-eang ar gam cyffrous o'i datblygiad a chwarae rôl ddiffiniol wrth lywio cyfeiriad, effeithiolrwydd gweithredol ac effaith sefydliadol Prifysgol Abertawe yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfle hwn ac i gyflwyno cais, ewch i: https://www.veredus.co.uk/opportunities/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1219.

Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â'n hymgynghorwyr cynghori yn Veredus: Reece D’Alanno yn reece.dalanno@veredus.co.uk neu Nataliya Starik-Bludova yn nataliya.starik-bludova@veredus.co.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 5pm nos Wener, 23 Hydref 2026.