Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 yn amlinellu gweledigaeth ein Prifysgol ac yn adlewyrchu ei gwerthoedd, wrth i ni ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau.
Rydym yn ymdrechu i wneud mwy na chydymffurfio â rheoliadau yn unig, felly mae ein hadroddiadau mor fanwl â phosib, gan ragori yn aml ar y gofynion cyfreithiol. Credwn y bydd ein gweithgarwch yn y maes hwn nid yn unig yn gwella amgylcheddau i'n staff a'n myfyrwyr, ond hefyd yn cefnogi newid diwylliannol.
Mae ein tîm cyfeillgar yn cefnogi'r Brifysgol i sicrhau bod tegwch wedi'i wreiddio ym mhob peth a wnawn - yn gynhwysol o ran oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd a chred, tueddfryd rhywiol a rhyw.