Mae Prifysgol Abertawe'n credu mewn cyfle cyfartal a'i nod yw darparu amgylchedd gweithio a dysgu lle na cheir gwahaniaethu, ac sy'n galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Mae data monitro cydraddoldeb wedi cael ei gasglu gan staff a myfyrwyr ledled y DU am nifer o flynyddoedd ym maes pedair nodwedd warchodedig: Oedran, Anabledd, Hil a Rhyw.
Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 bum nodwedd newydd: Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil (staff yn unig), Beichiogrwydd a Mamolaeth, Crefydd a Chred a Thueddfryd Rhywiol. Mae'n ofyniad cyfreithiol yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru bod y Brifysgol yn monitro ar sail yr holl nodweddion gwarchodedig ac adlewyrchir hyn yng Nghynllun Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024
Ymdrinnir â'r holl wybodaeth sy'n cael ei darparu drwy fonitro cydraddoldeb yn hollol gyfrinachol ac os caiff ei chyhoeddi, mewn adroddiadau er enghraifft, gwneir hynny mewn fformat dienw yn unig.
PAM MAE MONITRO'N BWYSIG?
Mae monitro Cydraddoldeb yn bwysig iawn, am sawl rheswm:
- mae adrodd blynyddol yn ein galluogi i nodi tueddiadau a newidiadau dros amser
- mae'n helpu i lywio polisïau a gweithdrefnau
- mae'n dangos dadansoddiad o fyfyrwyr yn y Brifysgol, gan helpu i sicrhau bod pawb wedi’i gynrychioli’n deg, er enghraifft: mewn aelodaeth pwyllgorau
Er efallai nad yw'n ymddangos bod yr wybodaeth hon yn berthnasol i'ch cyflogaeth neu eich astudiaethau, mae'n helpu'r Brifysgol i wella amrywiaeth o fentrau, dulliau cyfathrebu, prosiectau a mwy.
SUT MAE HYN YN EFFEITHIO ARNOCH CHI?
Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar gael ar Gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Stonewall Cymru wedi cyhoeddi'r canllaw canlynol mewn perthynas â monitro cydraddoldeb, gan roi deg rheswm pam dylech chi gwblhau ffurflenni monitro: Sut mae hyn yn effeithio arnoch chi?