- Rhif y Swydd
- SU01297
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £26,338 i £29,179 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Rhag 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 15 Rhag 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Andrea Watkins andrea.watkins@swansea.ac.uk
- Nia Watkins nia.watkins@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd yr uwch gynorthwy-ydd asesu a chanlyniadau’n gweithio yn y Tîm Asesu a Chanlyniadau mewn partneriaeth â staff academaidd, er mwyn darparu'r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cymorth proffesiynol yn y swyddogaethau canlynol:
- Cydlynu Arholiadau ac Asesu - bydd hyn yn cwmpasu'r holl raglenni, gan gynnwys partneriaethau cydweithredol.
- Cydlynu'r Flwyddyn/Cylch Academaidd – Gweithio i ddarparu rhaglen berthnasol o gymorth prydlon ar gyfer asesiadau ac arholiadau i staff academaidd a sicrhau y bodlonir yr holl derfynau amser.
- Adborth a Marciau Asesu ac Arholiadau – Sicrhau y cofnodir yr holl farciau'n gywir ar y system, ac y rhoddir adborth yn brydlon yn unol ag arweiniad/polisi'r Brifysgol er mwyn sicrhau y rhoir penderfyniadau ynghylch dilyniant neu ddyfarniadau i fyfyrwyr yn gywir ac yn brydlon.
- Rheoli Byrddau - Paratoi a chefnogi gwaith i gynnal byrddau dilyniant a dyfarniadau, gan sicrhau bod canlyniadau'n glynu wrth y polisïau a'r prosesau priodol.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.
Bydd y swydd hon yn addas i ymgeiswyr sydd â phrofiad sylweddol o weithio ym myd addysg ym maes asesu, arholiadau a dyfarniadau/dilyniant myfyrwyr, neu ymgeiswyr sydd â sgiliau trosglwyddadwy clir.
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn drefnus iawn, yn rhagweithiol a meddu ar lygad craff am fanylion a gallu gweithio i ddyddiadau tynn dan bwysau, gan ragweld problemau a allai godi.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda staff academaidd o raglenni astudio penodol, neu gefnogi swyddogaeth benodol ar draws yr holl Dîm Asesu a Chanlyniadau, felly mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gweithio effeithiol a datblygu dealltwriaeth o raglenni a rheoliadau academaidd yn hanfodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr